Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

"Darllen hanfodol ar gyfer heddiw" - nofel amserol am hiliaeth a chaethwasiaeth

Bu 2020 yn flwyddyn a hanner gyda’r Coronafeirws yn bennawd newyddion bob dydd am bron i flwyddyn. Y stori fawr arall oedd llofruddiaeth George Floyd gan yr heddlu yn Minnesota ym mis Mai 2020. Fe achosodd y drosedd yma, a ddaliwyd ar gamera ffôn aelod o’r cyhoedd, ffrwydriad yn ymwybyddiaeth mudiad Black Lives Matter, mudiad a sefydlwyd yn 2013 ond a gyrhaeddodd prif ffrwd cymdeithas yn 2020.

Mae Safana gan Jerry Hunter yn nofel gyffrous ac amserol ac yn “ddarllen hanfodol ar gyfer heddiw” yn ôl Gareth Evans-Jones, sy’n awdur, yn feirniad ac yn ysgolhaig sy’n astudio caethwasiaeth. Meddai hefyd fod y nofel yn un “eithriadol rymus ac amserol. Ceir yma ymdriniaeth gelfydd ag agweddau amrywiol megis hanes ac anhanes, caethwasiaeth a rhyddid, a pherthynas yr unigolyn â’i gymdeithas.” 

Meddai Jerry Hunter:
“Rwy’n meddwl cryn dipyn am ochrau tywyll hanes yr Unol Daleithiau. Mae fy nofel Y Fro Dywyll yn mynd i’r afael â rhai o’r ochrau tywyll hynny, ac mae Ynys Fadog yn cyffwrdd â nifer ohonynt hefyd. Roedd gen i awydd i ysgrifennu rhywbeth am George Whitefield ers talwm iawn. Mae’n ffigwr sydd wedi’i fawrygu mewn rhai cylchoedd – roedd yn un o sylfaenwyr ‘Methodistiaeth’ ar ddwy ochr y môr ac fe oedd yn cael ei adnabod fel ‘Tad Ysbrydol America’ yn yr Unol Daleithiau – ond roedd wedi chwarae rôl ofnadwy yn hanes America hefyd gan ei fod wedi hyrwyddo caethwasiaeth ac felly roeddwn am amlygu hynny.” 

Mae’r nofel wedi’i chyflwyno i Stacey Abrams a Fair Fight Action, mudiad oedd yn ymladd yn erbyn atal pleidleisiau yn Georgia, gweithred a ysbrydolodd Jerry Hunter, meddai:

“Bu’r blynyddoedd 2016-20 yn gyfnod eithriadol o dywyll yn hanes diweddar yr Unol Daleithiau, gydag arlywyddiaeth Donald Trump yn awdurdodi agweddau hiliol asgell dde a’u symud o gyrion gwleidyddiaeth i’r canol. Un o’r pethau a wnaed gan Trump a’i gefnogwyr oedd cefnogi’r hen duedd hiliol i geisio rhwystro pobl Affrican-Americanaidd rhag defnyddio’u pleidleisiau. Sefydlodd Stacey Abrams Fair Fight (neu Fair Fight Action) er mwyn ymladd yn erbyn yr ymdrechion hyn i atal pleidleisiau yn Georgia a bu hi a’i mudiad yn hynod lwyddiannus. Gwelwyd canlyniadau eu gwaith yn etholiad 2020 pan enillwyd Georgia gan Biden a hefyd yn ddiweddarach pan enillodd dau Ddemocrat ddwy sedd y dalaith yn Senedd yr Unol Daleithiau. Felly, bu’r gwaith hwn yn y Georgia go iawn yn ysbrydoliaeth i mi pan oeddwn i wrthi’n sgwennu nofel am ymdrechion i rwystro gormes mewn fersiwn ffuglennol o Georgia.” 

Disgrifiwyd y nofel fel un ‘anhanes’ gan yr awdur, genre sy’n wahanol i ‘hanes amgen’. Mae’r gwahaniaeth yn y ffordd mae anhanes yn “ddrych i hanes mewn modd sy’n ein galluogi i weld ffeithiau hanesyddol go iawn mewn modd mwy eglur” yn ôl Jerry Hunter. Meddai:

“Er bod gen i nifer o brosiectau creadigol eraill yn mudlosgi, teimlais fod angen gorffen y nofel hon gan fod y stori’n cydfynd â’r awydd i archwilio hanes caethwasiaeth a ddaeth yn sgil mudiad Black Lives Matter. Mae’r nofel yn archwilio’r berthynas rhwng unigolion a’u cymdeithas, gan gynnwys agweddau moesol ar y berthynas honno. Mae’n gofyn a yw’n iawn i ddefnyddio trais er mwyn cyrraedd nod o’r fath.”