Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyw a'i ffrindiau yn cwrdd a ffrind newydd!

Mae cyfres Cyw a'i ffrindiau yn cyflwyno cymeriad newydd sbon i'r gyfres yn eu hantur ddiweddaraf a gyhoeddir yr wythnos hon.

Yn Cyw yn yr Ysbyty mae Cyw a'i ffrindiau yn ymweld â'u ffrind newydd yn yr ysbyty, sef ci bach tair coes o'r enw Triog.

Ysgrifennwyd y stori gan gyflwynydd S4C a Bardd Plant Cymru, Anni Llyn, ac mae wedi cael llawer o hwyl yn ysgrifennu'r gyfrol.

'Mae hon yn stori gyffrous gan ein bod yn cyfarfod ffrindiau newydd. Ond mae un ffrind sy'n arbennig iawn sef Triog y ci bach hyfryd!' meddai Anni Llyn.

'Dyma'r pumed llyfr i ni ei gyhoeddi yn y gyfres yma o straeon am Cyw a'i ffrindiau ac rydym yn falch o gael cyflwyno Triog, cymeriad newydd i fyd Cyw' meddai Helen Davies Pennaeth Cyw yn Boom Plant.

'Rydym yn falch iawn o gydweithio unwaith eto gyda Boom Plant ac S4C i greu'r gyfres' meddai Meinir Edwards o wasg Y Lolfa, 'Bydd plant yn gallu uniaethu â phrofiad Cyw yn mynd i'r ysbyty am y tro cyntaf – sefyllfa sy'n gallu codi ofn ar blant bach.'

Dyma adnodd lliwgar perffaith i blant bach i ddysgu geirfa sy'n gysylltiedig â'r ysbyty gyda patrymau iaith syml a brawddegau byr Cymraeg ar bob tudalen.

Bydd Sioe Cyw yn mynd ar daith cyn y Nadolig o amgylch Cymru – gyda tocynnau ar werth nawr i'w harchebu o wefan S4C.