Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cynnwrf etholiad a chyffro darlledu – Dewi Llwyd yn datgelu’r troeon trwstan tu ôl y llenni

Mae’r darlledwr adnabyddus Dewi Llwyd wedi datgelu rhai o’i brofiadau mwyaf cofiadwy yn ystod cynnwrf gwleidyddol blwyddyn etholiad mewn dyddiadur dadlennol, gan hel atgofion hefyd am ei ddegawdau’n cyflwyno amryfal raglenni, gan gynnwys Pawb a’i Farn.

Mae’r gyfrol Pawb a’i Farn - Dyddiadur Dewi Llwyd, a gyhoeddir yr wythnos hon, yn gyforiog o straeon difyr am yrfa Dewi Llwyd fel darlledwr uchel ei barch am bedwar degawd gan ganolbwyntio’n bennaf ar y flwyddyn wleidyddol gythryblus a fu, ar ôl i Theresa May fynd ar ei gwyliau i Ddolgellau dros y Pasg.

Mae hefyd yn dilyn etholiadau tyngedfennol eleni ym Mharis, Berlin, a’r pleidleisio ar benwythnos o wrthdaro a phrotestio yn ninas Barcelona. Ceir hefyd atgofion o droeon trwstan y byd darlledu ar hyd ei yrfa, yn atgofion melys ac anffodus a chyffro noson etholiad cyffredinol o ochr arall y ddesg – swydd y mae wedi ei gwneud naw o weithiau hyd yn hyn.

Ymhlith y straeon ceir y profiad diflas o geisio delio â gwesteion oedd yn gwrthod cymryd rhan ac chadeirio rhaglen danllyd adeg y Refferendwm Ewropeaidd y llynedd.

Darlledwyd honno y noson cyn y bleidlais, gyda’r Ceidwadwr Felix Aubel a dau neu dri oedd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd yn torri ar draws cyfranwyr eraill yn ddi-baid. Ar y panel, roedd Dafydd Wigley ar fin colli ei limpyn yn llwyr a wyneb Ann Beynon yn cyfleu diflastod pur.

‘Roeddwn i’n bryderus nad oedd gennym swyddogion diogelwch. Yn dilyn y rhaglen cefais ddau lythyr dienw yn dweud y dylid gwahardd Felix Aubel rhag ymddangos ar Pawb a’i Farn ac efallai y dylid cael cadeirydd newydd’ meddai Dewi Llwyd, ‘Ond gwahanol iawn oedd barn rhywun arall a ddaeth ata i. Meddai,‘Mae angen mwy o bobol fel Felix arnoch chi. Gormod o “Yes men” ar y paneli ’ma!’”

Profiad anodd arall oedd cadeirio rhaglen o Flaenau Ffestiniog gan ymdrechu’n ofer i dawelu aelod meddw o’r gynulleidfa yn y rhes flaen.

‘Wnaeth hi ddim dechrau tawelu nes ein bod ni o fewn deng munud i’r diwedd. Profiad hunllefus i’r cyflwynydd, ond yn adloniant efallai i rai...’ meddai Dewi, ‘Yna daeth tair dynes yn syth ata i o’r gynulleidfa. ‘Mae’n wir ddrwg gynnon ni, Mr Llwyd, am yr hyn ddigwyddodd. Roedd ei hymddygiad hi’n warthus, ond dyna ni, dydi hi ddim o’r ffordd hyn.’ ‘O ble mae hi’n dod felly?’ meddwn innau gan ddychmygu rhywle ymhell iawn o’r Blaenau. ‘O Drawsfynydd!’”

Cawn gipolwg hefyd ar ei fywyd personol, gan gynnwys teithiau i Stockholm i gefnogi Manchester United ac i Dubai i weld ei fab, yn ogystal â’r ochr fwy hamddenol i Dewi sy’n holi gwesteion ar foreau Sul.

Ysgrifenwyd y rhagair gan Betsan Powys.

‘[Dewi yw] yr angor, y llais anhepgor sy’n ein harwain i ganol straeon y dydd’ meddai, ‘[ac mae ganddo] atgofion aruthrol i’w rhannu ac mae’n gwneud hynny’n llawn afiaith.’

Dewi Llwyd yw cyflwynydd Pawb a’i Farn, Post Prynhawn a’i raglen radio wythnosol Dewi Llwyd ar Fore Sul. Mae wedi cyflwyno Newyddion a llu o raglenni dros gyfnod o ddegawdau ac yn un o wynebau mwyaf adnabyddus ar y cyfryngau yng Nghymru.