Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyhoeddi'r nofel Gymraeg fwyaf erioed - epig am hanes Cymry America

Yr wythnos hon cyhoeddir un o nofelau mwyaf uchelgeisiol yn y Gymraeg erioed, wedi ei ysgrifennu gan yr awdur arobryn Jerry Hunter a’i chyhoeddi gan wasg Y Lolfa. Mae Ynys Fadog yn epig hanesyddol gyffrous a darllenadwy sy'n darlunio hynt cymuned Gymreig yn America ac yn cynnwys bron i chwarter miliwn o eiriau, ac yn cael ei chyhoeddi ddau gan mlynedd ers i’r ymfudwyr Cymreig cyntaf gyrraedd Ohio.

 

Mae’r nofel yn darlunio cyfnod eithriadol o gyffrous yn hanes America – o 1818 i 1937, gan wneud hynny drwy fywyd Sara Jones a’i theulu, a’u hymgais am fywyd gwell ar lan yr Ohio.

 

Meddai Jerry Hunter: “Mae’r stori hon wedi bod yn fy mhen ers rhyw ugain mlynedd, ac mae’n dipyn o ryddhad ei gweld mewn print o’r diwedd. Gan fy mod i wedi gwneud llawer o ymchwil yn y maes, mae cymaint o hanes Cymry America ar flaenau ‘mysedd, ac roedd yn wych cael defnyddio ffuglen i drin y pwnc.”

 

Lansiwyd y gyfrol ym Mhant Du, Penygroes gyda pherfformiad gwych gan Lisa Jên, cantores y band rhyngwladol 9bach. Perfformiodd hi ganeuon sy’n cael sylw yn y nofel, gan gynnwys emyn Cymraeg Americanaidd nad oedd neb wedi’i ganu ers rhyw ganrif a hanner, mae’n debyg. Dywedodd Jerry Hunter:

“mae cerddoriaeth yn greiddiol i’r modd dw i’n darlunio gwaed o ddylanwadau diwylliannol – y Cymreig a’r Americanaidd – ac roedd yn wefreiddiol clywed Lisa Jên yn dod â hynny’n fyw mewn ffordd mor bwerus a chofiadwy.”

 

Disgrifiwyd y nofel gan yr awdur a’r newyddiadurwr Jon Gower, fel “epig o nofel”, gan ychwanegu: "Dyma artist yn dewis cynfas fawr a'i llenwi gyda themâu bywyd - cariad, rhyfel, heddwch, ffydd - ynghyd â chast prysur o gymeriadau byw. Afon o stori sy'n llifo fel bywyd ei hun."