Cyhoeddi'r cofiant cyflawn cyntaf erioed i Cynan
‘Rebel!’ ‘Piwritan!’ ‘Anarchydd!’ ‘Unben!’ ‘Bohemiad!’ ‘Deinosor!’ Anodd credu bod yr holl enwau’n disgrifio’r un dyn. Ond un felly oedd Cynan – Marmite o gymeriad a gynhyrfai ymateb cryf o’i blaid neu yn ei erbyn, clamp o bersonoliaeth a gydiai yn nychymyg pobl. Cynan ar lafar gwlad, neu Albert Evans Jones (1895-1970), i roi ei enw swyddogol, oedd un o Gymry enwocaf yr ugeinfed ganrif. Dyma gymeriad a fwriodd ei ddylanwad ar Gymru am gyfnod o hanner can mlynedd, o’r 1920au hyd at ei farwolaeth yn 1970. Ac ar hanner canmlwyddiant ei farwolaeth dyma weld cyhoeddi’r cofiant cyflawn cyntaf iddo gan wasg y Lolfa.
Mae’r cofiant yn ymdrin â sawl agwedd ar ei fywyd – fel bardd, eisteddfodwr, Cofiadur, Archdderwydd, cyd-ysgrifennydd Cyngor yr Eisteddfod, sensor dramâu, dramodydd, cynhyrchydd, beirniad. Rhannwyd y gyfrol yn saith pennod neu act i gyfateb yn gronolegol i wahanol gyfnodau yn ei fywyd lliwgar a llawn. Daw’r gyfrol i ben gydag ymdriniaeth fanwl o’r rhan a chwaraeodd yn ystod pum mlynedd olaf ei oes yn un o ddigwyddiadau mwyaf dadleuol y cyfnod sef Arwisgiad y Tywysog Siarl yng nghastell Caernarfon ar 1 Gorffennaf 1969. Er na fu pawb yn canu clod y marchog llwyddiannus pan oedd yn hen a pharchus ar ddiwedd ei oes, go brin fod hynny’n achos gofid i ŵr mor benderfynol a hyderus a wyddai mai fo oedd yn iawn. Yng ngeiriau Derec Llwyd Morgan, dyma gyfrol ‘angenrheidiol, dra dra gwerthfawr, yn adrodd hanes cymeriad lliwgar a fu’n wrthrych clod, beirniadaeth a dychan fel ei gilydd.’
Mae’r gyfrol yn ffrwyth gwaith ymchwil o dros
10 mlynedd i Gerwyn Wiliams. Yn rhan o’r broses ymchwil, cafodd fynediad i
ddeunydd personol Cynan – yn ddogfennau a lluniau. Meddai:
‘Teithiais yn sgil Cynan o Archifdy Prifysgol Bangor i’r Llyfrgell Brydeinig ac o Lyfrgell Genedlaethol Cymru i Archifau Cenedlaethol Kew. Traddodais ddarlithoedd yn y Llyfrgell Genedlaethol a’r Eisteddfod Genedlaethol ac i gymdeithasau llenyddol. O ran derbyniad cynulleidfa, dyma’r testun a enynnodd fwyaf o ymateb o blith holl feysydd ymchwil fy ngyrfa yn ystod y pymtheng mlynedd ar hugain diwethaf, prawf fod y diddordeb yn Cynan, o hyd yn fyw.’
Nid cofiant llenyddol yn unig mo’r gyfrol hon,
ond yn hytrach eir i’r afael â holl agweddau’r bywyd llawn dop o brofiadau
diddorol a brofodd Cynan. Mynega Gerwyn: ‘o gymeriad a lanwodd y llwyfan a
theyrnasu am dros hanner canrif, bu’r ffaith na chaed eto gofiant iddo yn un a
borthodd fy chwilfrydedd a chryfhau fy mhenderfyniad i ddwyn y maen i’r wal.
Rwy’n dyfalu mai un rheswm am absenoldeb cofiant blaenorol oedd y ffaith ei fod
wedi cyflawni cymaint yn ystod ei oes a’i bod hi’n her cwmpasu’r cyfan rhwng dau
glawr. Profodd fywyd hir a llawn digwyddiadau ac yn wahanol i ambell ffigwr
cyhoeddus, ni chiliodd am ennyd o lygaid y cyhoedd ar ôl ymddeol.’