Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyhoeddi Tylwyth - drama newydd gan Daf James

Ym mis Mawrth mi fydd y ddrama Tylwyth yn cael ei pherfformio ar hyd a lled Cymru – drama arloesol Daf James sy’n olynydd i’r enwog Llwyth a berfformiwyd ddegawd yn ôl. Mae Tylwyth yn cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman.

I gyd-fynd â pherfformiadau o’r ddrama newydd, mi fydd sgript hynod o gyffrous Daf James yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa ac ar werth i’w prynu ar y daith o gwmpas Cymru.

Meddai Daf James: “I ddramodydd, mae cael y cyfle i gyhoeddi script yn holl bwysig. Gan bod theatr yn gyfrwng byw, mae perfformiad yn aml yn mynd a dod, felly mor braf yw cael y tesun ar gof a chadw. A braf iawn yw medru cyd-weithio gyda’r Lolfa, gwasg mor flaenllaw yng Nghymru ar brosiect sydd mor agos at fy nghalon.”Meddai Lefi Gruffudd, Pennaeth Golygyddol Y Lolfa “Mae hi’n bleser cydweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman a chyhoeddi sgript Tylwyth gan un o awduron mwyaf blaengar Cymru a sicrhau y bydd y gwaith ardderchog yma ar gael mewn print i farchnad ehangach. Mawr obeithiwn y bydd modd cydweithio yn y dyfodol gyda chynyrchiadau arloesol o’r fath.”

Mae Tylwyth yn dychwelyd i fywydau Aneurin, Rhys, Gareth a Dada gan “daflu golwg grafog ar gariad, teulu a chyfeillgarwch, mae Tylwyth yn cynnig sylwebaeth feiddgar a phryfoclyd ar y Gymru gyfoes,” yn ôl Theatr Genedlaethol Cymru. Mae’r ddrama yn sefyll ar ben ei hun, ac nid oes rhaid bod wedi gweld Llwyth i’w fwynhau.

Bydd y ddrama yn agor yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd ar 10fed o Fawrth ac yna’n teithio ar hyd a lled Cymru i Gaernarfon, Aberystwyth, Llanelli, Y Drenewydd, Aberteifi, Bangor a’r Wyddgrug. Bydd y ddrama ar gael i’w brynu adeg lansiad y ddrama yn Theatr y Sherman ar 10 Mawrth.