Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

CYHOEDDI LLAWLYFR HANFODOL AM BATAGONIA GAN GYMRAES A SWYNWYD GAN Y WLADFA

Yn y dathliad blynyddol i gofnodi glaniad y Cymry Cyntaf ym Mhorth Madryn, cyhoeddir llawlyfr pwysig i dywys pobl ar hyd taith y Cymry ym Mhatagonia gan Gymraes a briododd ddyn o’r Wladfa. Mae Llawlyfr y Wladfa, wedi’i ysgrifennu gan Delyth MacDonald, yn annog y darllenydd i ddilyn yr haul tua’r gorllewin hyd at yr Andes – mi fydd yn cael ei chyhoeddi yng Ngŵyl y Glaniad, sydd eleni yn Y Bala ar Orffennaf 28.

 

Mae’r gyfrol gyfoethog hon yn llawn gwybodaeth, mapiau, a lluniau lliw ac yn cael ei hanelu at deithwyr go iawn a theithwyr cadair freichiau. Fe fydd yn cael ei lawnsio yng Ngŵyl y Glaniad sy’n dathlu glaniad y Cymry cyntaf ym Mhorth Madryn ar fwrdd llong y Mimosa.

 

Yn 1970, priododd yr awdures, Delyth MacDonald, a ‘Hogyn o’r Wladfa’. Mae’n cyfaddef bod ei gwybodaeth am hanes Patagonia yn gyfyngedig iawn ar y pryd:

 

“Ni chefais erioed wers amdani yn yr ysgol, ond rwy’n cofio darllen Bandit yr Andes, nofel antur i blant gan R Bryn Williams!”

 

Fe gafodd Delyth y cyfle i ymweld â’r lle am y tro cyntaf yn 1991 a, a dros y blynyddoedd, yn ystod nifer o deithiau i’r dyffryn i weld ei theulu yng nghyfraith, cafodd ei swyno’n llwyr. Ymunodd ag Elvey, ei gŵr, ar deithiau niferus i’r dyffryn a’r Andes, gan dywys ymwelwyr o Gymru i fannau o ddiddordeb yn stori’r wlad, a daeth i wybod am yr ardal, ei hanesion a’i phobl;

 

“Fe’m swynwyd yn llwyr wrth glywed yr hanesion a’r storïau yn cael eu hadrodd yn yr union safleoedd lle y bu iddynt ddigwydd, a theimlais y byddai’n braf rhoi yr un cyfle i eraill.”

 

Fe aeth Delyth ati i lunio’r llawlyfr gan deimlo bod yna fwlch yn y farchnad. Mae’r Llawlyfr yn llawn lluniau ac yn seiliedig ar ffeithiau a gasglodd ar ei theithiau. Mae’r gyfrol yn cyflwyno hanes y wlad, gan gynnwys sut adeiladwyd y Wladfa Gymreig, ac yn cynnwys gwybodaeth am y bobl a rhai o’r lleoliadau mwyaf difyr.

 

 “Rwy’n gobeithio bydd y llyfr o ddiddordeb i’r rhai a fu yno eisoes, i’w hatgoffa am eu taith, a hefyd i deithiwyr cadair freichiau na fu ym Mhatagonia, nac a fydd yn debygol o fynd yno. Ei phwrpas, yn bennaf, yw cyfoethogi profiad ymwelwyr y dyfodol, boed hynny fel rhan o grŵp ffurfiol neu ar eu pennau eu hunain,” meddai Delyth MacDonald.