Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyhoeddi dyddiaduron milwr ifanc o ddiwedd y Rhyfel Mawr

Union gan mlynedd ar ôl i’r Rhyfel Mawr orffen, cyhoeddir dyddiaduron personol milwr o Gymru, Stephen Owen Tudor yn y gyfrol Dyhead am Heddwch gan Y Lolfa.

Mae’r dyddiaduron yn cofnodi teimladau, ofnau a gobeithion milwr ifanc wrth iddo gael profiadau erchyll mewn ymladdfa greulon a didostur.

Roedd Stephen Owen Tudor yn 21 mlwydd oed ac yn gweithio fel bugail ar fferm ei dad pan orfodwyd iddo gofrestru gyda’r Gwarchodlu Cymreig a’i anfon i ymuno a chyflafan waedlyd y Rhyfel Mawr. Daeth yn adnabyddus yn ddiweddarach fel gweinidog ac awdur talentog.

Ganwyd y Parchedig S. O. Tudor yn Llwynygog, Staylittle. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg y Drenewydd, ac ar ôl y Rhyfel aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth a Phrifysgol Rhydychen gan raddio gydag Anrhydedd mewn Diwinyddiaeth. Ordeiniwyd ef yn 1927 a bu’n weinidog yn Gaerwen, ym Mhorthmadog ac yna am 27 mlynedd yn Moriah, Caernarfon.

Disgrifir profiadau bob dydd yn y dyddiaduron yn ogystal â chyfnodau yn ffosydd Ffrainc yn 1918: ‘Y mae yn bwrw eira heddyw ac mae’r gelyn yn brysur iawn yn anfon tân belenni trosodd yma ar hyd y dydd’; a disgrifir gorymdaith cant a hanner o filltiroedd yr holl ffordd i Cologne ar ddiwedd y rhyfel.

Ysgrifennwyd cyflwyniad i’r gyfrol gan fab S.O. Tudor, sef Huw Meilir Tudor;

“Mae’n anrhydedd i mi gyflwyno dyddiadur fy nhad am y flwyddyn 1918, pan fu’n gwasanaethu ei wlad yn y Gwarchodlu Cymreig. Prin iawn roedd fy nhad yn siarad am y Rhyfel, dim ond unwaith y gallai gofio iddo gyfeirio at y cyfnod er rhaid i’r cyfnod greu argraff ofnadwy o gryf arno,” meddai Huw Meilir Tudor. “Pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd, fe fynnodd fynd yn Gaplan yn y Fyddin drwy’r cyfnod, oherwydd ei argyhoeddiad a’i deimladau cryfion ynghylch yr angen i fugeilio ieuenctid ei wlad.”

Ceir rhai o luniau personol teuluol S.O. Tudor a sawl un arall yn dangos elfennau cyffredinol y rhyfel, llun o’r Signalwyr er enghraifft. Mae’r dyddiaduron wedi’u hysgrifennu yn gymysgfa o Gymraeg a Saesneg.

Mae’r gyfrol unigryw yma’n cynnwys amlinell fras o hanes y Rhyfel Mawr. Dyma gofnod hanesyddol, cymdeithasol a diwylliannol o bwys gan ddyn ifanc sy’n defnyddio cyfeiriadau crefyddol a llenyddol er mwyn ceisio dirnad y ffolineb barbaraidd a brofodd.


Bydd Dyhead am Heddwch yn cael ei lansio’n swyddogol am 4 o’r gloch ar brynhawn Sadwrn 6ed o Hydref yn Galeri, Caernarfon. Bydd y lansiad yng nghwmni Huw Tudor ac Elizabeth Griffith a’r delynores Elinor Bennett.