Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyhoeddi cyfrol o lythyrau am brofiadau byw gydag iselder

Cyhoeddir llyfr newydd yr wythnos hon gyda’r nod o fedru cynnig negeseuon o obaith i bobl sy’n byw ag iselder. Mae Llythyrau Adferiad (Y Lolfa) yn gyfieithiad o’r fersiwn wreiddiol lwyddiannus The Recovery Letters, a golygwyd gan James Withey ac Olivia Sagan a gafodd ei gyhoeddi yn 2012.

Cyhoeddwyd y gyfrol i gyflwyno cyfres o lythyrau ar-lein gan bobl a oedd yn dod dros iselder at bobl a oedd yn dal i fod yn ei chanol hi. Wedi’u crynhoi’n gasgliad am y tro cyntaf ar gyfer pobl sy’n byw gydag iselder, mae’r llythyrau ysbrydoledig a didwyll hyn, sy’n seiliedig ar brofiadau personol, yn cynnig gobaith a chefnogaeth ac yn tystio bod adferiad yn bosib.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Asiantaeth Darllen (The Reading Agency) a llyfrgelloedd i sicrhau bod y cynllun Darllen yn Well ar gael ar draws Cymru. Fe lansiwyd Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer dementia yn 2018, a llynedd fe lansiwyd Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl. Nod Darllen yn Well ydi i roi cymorth i bawb deall a rheoli eu hiechyd a byw yn dda a rhoi cyngor i deulu a gofalwyr. Mae’r llyfrau i gyd wedi’u cymeradwyo gan weithwyr y maes iechyd. Mae’r Asiantaeth Darllen yn gweithio ar y cyd gyda Chyngor Llyfrau Cymru i sicrhau bod y llyfrau ar y rhestr ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf.

Meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru “Mewn cyfnod o drafod cynyddol am broblemau iechyd meddwl, rydyn ni yn y Cyngor Llyfrau yn falch iawn o fod yn gweithio gyda’r Asiantaeth Ddarllen a Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cynllun Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn yng Nghymru. Mae pob un o’r llyfrau hunangymorth yn y gyfres hon wedi’u cymeradwyo gan arbenigwyr iechyd ac mae sicrhau bod deunydd safonol o’r fath hefyd ar gael yn y Gymraeg yn hollbwysig.”

Bydd mwy o gyfrolau’n cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf, gyda’r llyfrau yn trafod pynciau pwysig fel ymwybyddiaeth ofalgar, galar, gorbryder ac anhwylder bwyta. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.reading-well.org.uk/cymru

_____________________________________________________________-

Canmoliaeth am y llyfr:

“Heb os mae grym gan Llythyrau Adferiad i achub bywydau.” Tim Lott, newyddiadurwr ac awdur

“Darllenwch y llyfr hwn, prynwch e i bobl eraill; mae’n feddyginiaeth brin a phwerus.” Gwyneth Lewis, awdur Sunbathing in the Rain: A Cheerful Book about Depression

“Mae’r bobl sy’n ysgrifennu’r llythyrau hyn yn disgrifio iselder mewn ffordd sy’n unigryw i rai sydd wedi’i oroesi.” Douglas Bloch MA, awdur Healing from Depression: 12 Weeks to a Better Mood

“Llythyrau pwerus gan bobl sydd wedi bod yno ac sy’n gwybod o brofiad na fyddwch chi’n teimlo fel hyn am byth.” Claudia Hammond, darlledwraig ac awdur