Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyfuno diwylliant Eingl-Americanaidd gyda’r stori fer Gymreig

Dylanwad diwylliant poblogaidd Eingl-Americanaidd sydd ar gyfrol newydd o straeon byrion gan yr awdur Jon Gower.

Casgliad o 21 stori fer ddychmygus a dyfeisgar yw Rebel Rebel gan Jon Gower wedi eu lleoli ym mhedwar ban byd, gan gyflwyno'r darllenwyr i gymeriadau ffuglennol a gwir mewn sefyllfaoedd credadwy a ffantasïol.

'Mae llenyddiaeth yr Unol Daleithiau, yn enwedig nofelau, wedi bod yn ddylanwad mawr arna i ers yn grwtyn, yn enwedig f'arwr mawr John Updike a'r cewri eraill megis Saul Bellow a Cormac McCarthy.' meddai Jon Gower.

'Yn ddiweddarch ddes i nabod ac i garu gwaith awduron anhygoel o dda fel Annie Proulx a Lorrie Moore ac mae'r garwriaeth yn parhau hyd y dydd heddiw, heb sôn am eu hastudio i weld sut mae gwneud i frawddeg weithio'n galed. Mae'r un peth yn wir am gerddoriaeth Americanaidd – o Brian Wilson i Kendrick Lamar.' ychwanegodd.

Daeth ei ysbrydoliaeth o gyfuno diwylliant Eingl-Americanaidd gyda'r stori fer Gymreig gan lu o awduron Americanaidd megis yr enwog Ernest Hemingway.

'Mae ambell stori fer yn ddyledus i Ernest Hemingway ac un o'r gweithiau yn y gyfrol yn efelychu ei gamp enwog o sgrifennu stori fer mewn llond llaw o eiriau,' meddai Jon. 'Cefais f'ysbrydoli gan awduron eraill hefyd, yn enwedig rhai o'r bobl sy'n sgrifennu straeon byrion yn America ar y foment – Wells Tower a Christopher Coake.'

Ond nid gan awduron yn unig y cafodd Jon ei ysbrydoli ac mae'n ddyledus i un artist yn benodol am ei ddylanwad arno.

'Doeddwn i ddim yn sylweddoli beth oedd dylanwad David Bowie arna i nes iddo farw, a'r gwacter a'r golled yn profi cymaint oedd y dyn yn bresennol yn fy mywyd cyn hynny,' eglurodd Jon.

'Un o'r pethau mwyaf syfrdanol amdano oedd ei waith mwyaf diweddar, blodeuo artistig hyd yn oed wrth iddo lithro i salwch a bu'n rhaid i mi ychwanegu stori newydd i geisio adlewyrchu mawredd ei albym olaf – campwaith a luniodd er gwaetha'r cancr, gan greu gwaith gwreiddiol, pwerus reit hyd at y diwedd olaf un.'

Mae Jon Gower, yn ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg, ac wedi llenwi hanner silff lyfrau bellach gyda'i waith ei hun, sy'n cynnwys Y Storïwr (Llyfr y Flwyddyn 2012), Norte a The Story of Wales. Rebel Rebel yw ei bedwaredd gyfrol o straeon byrion.