Cyfrol hanfodol i bobl Cymru
Wedi llwyddiant y podlediad poblogaidd, Dim Rŵan na Nawr cyhoeddir cyfrol gan wasg y Lolfa sy’n dod â’r podlediad rhwng dau glawr - Dim Rŵan na Nawr: Hanes Cymru Drwy’r Oesoedd.
Podlediad hanes gan Tudur Owen a Dyl Mei yw Dim Rŵan na Nawr, ac ymhob pennod mae arbenigwyr yn ymuno â’r ddau i’w tywys drwy hanes Cymru, un cwestiwn a phwnc ar y tro.
Yn y gyfrol, cynhwysir y cwbl ddysgodd Tudur Owen a Dyl Mei tra’n recordio’r gyfres. Gofynna’r ddau y cwestiynau mae pob Cymro am ei wybod, ac maent yn damcaniaethu, dadansoddi, cwestiynu, trafod a sgwrsio am hanes Cymru gydag arbenigwyr gwahanol. Tywysir ni drwy’r oesoedd – o gyfnod y bobl gyntaf yng Nghymru i’r Celtiaid, y Rhufeiniaid, yr Oesoedd Tywyll, Oes y Tywysogion hyd at gyfnod Owain Glyndŵr. Y cwbl wedi’i gyflwyno mewn arddull ysgafn, ddealladwy, ddiddorol.
Mae Dim Rŵan na Nawr: Hanes Cymru Drwy’r Oesoedd yn gyfrol llawn lliw, yn llawn ffeithiau, dyfyniadau a lluniau wedi’i arddangos mewn bocsys gwybodaeth, a drwy gartwnau.
Meddai Tudur Owen: ‘Roedd y rheswm dros recordio’r gyfres o bodlediadau, Dim Rŵan na Nawr, yn gwbl hunanol. Yn syml, yr awydd i ddysgu am hanes fy ngwlad... Mae’r cwestiynau ’da ni’n eu gofyn i’r arbenigwyr yn rhai elfennol iawn. Y math o gwestiynau sy’n cael eu gofyn gan bobol nath ddim gwrando yn yr ysgol.
’Dwi wedi dysgu cymaint o gael bod yn rhan o’r gyfres yma. Mae gen i well syniad am drefn ein cyfnodau hanesyddol a lle yn union mae petha’n ffitio yn ein llinell amser. Hefyd, mi ddysgais fod haneswyr yn gorfod dadansoddi’r gorffennol er mwyn cael at y gwir, drwy edrych a gwrando ar dystiolaeth o nifer fawr o ffynonellau cyn medru dod i gasgliad am be ddigwyddodd go iawn. A hyd yn oed wedyn mae darganfyddiadau a damcaniaethau newydd yn cael eu cynnig drwy’r amser sydd weithiau yn medru troi ein llyfrau hanes, a ’falle’r gyfres yma, ben ucha’n isa’.’