Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyfrol am rai o fawrion llenyddol Cymru

Humphrey Llyud, William Salesbury, Henry Salesbury, Morgan Llwyd, Jac Glan-y-Gors, Thomas Jones o Ddinbych, Twm o’r Nant, Thomas Gee, Syr Henry James – dyna enwau rai o fawrion llenyddol Sir Ddinbych ac enwau sy’n ymddangos mewn cyfrol newydd sbon gan wasg y Lolfa – Genefa, Paris a Dinbych ac Ysgrifau Eraill.

 

Casgliad o ysgrifau sy’n bwrw golwg ar bum canrif o gyfraniad i ddiwylliant Cymru gan rai o enwogion yr hen Sir Ddinbych sydd yn y llyfr. Ond er mai Sir Ddinbych oedd cynefin daearyddol y gwŷr llên a drafodir yn y gyfrol hon, roedd eu cynefin syniadol yn eang iawn ac o bwys mawr i Gymru gyfan. Daethant dan ddylanwad meddylwyr o’r Eidal, yr Almaen, y Swistir, Ffrainc, Lloegr ac America.

 

Meddai Gwynn Matthews, awdur y gyfrol:

 

“Mae dwy wedd i’r casgliad hwn o ysgrifau. Gellid eu hystyried ar rai o wŷr llên yr hen Sir Ddinbych a’u cyfraniad i hanes lleol, neu gellid eu hystyried fel ysgrifau ar hanes syniadau a’u cyfraniad i hanes deallusol Cymru.”

 

Traddodwyd rhai o’r ysgrifau fel darlithoedd cyhoeddus ar achlysuron arbennig a dyma’r tro cyntaf iddynt ymddangos rhwng dau glawr.

 

Meddai’r awdur:

 

“Ni ddylid eu hystyried fel beirniadaeth lenyddol, ac nid ysgrifau yn ystyr lenyddol fanwl y term ‘ysgrif’ ydynt chwaith. Wrth ddethol pa ddarlithoedd i’w cynnwys, ceisiais sicrhau cynrychiolaeth o bob canrif o’r unfed ganrif ar bymtheg hyd at yr ugeinfed. Mae yma ddeunydd o ddiddordeb i bobl drwy Gymru gyfan.”