Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyfres o nofelau gonest, ffres, llawn cariad, sy'n grymuso lleisiau cwbl newydd mewn llenyddiaeth Gymraeg" - Manon Steffan Ros

Cyfres newydd, y cyntaf o’i fath yn yr iaith Gymraeg, gan awduron a chyd-awduron ifanc wedi'u cyhoeddi gan Y Lolfa yn lansio 26 Gorffennaf 2021. Dyma gyfres o bum nofel onest, pwerus a di-flewyn-ar-dafod gan rai o’n awduron ifanc mwyaf blaengar – Megan Angharad Hunter, Mared Roberts, Elgan Rhys, Iestyn Tyne a Marged Elen Wiliam, gyda Manon Steffan Ros yn ysgrifennu prolog i bob nofel ac yn fentor creadigol ar y gyfres. Mae Y Pump yn brosiect uchelgeisiol, sy’n cyfuno gwaith gwreiddiol pum sgwennwr cyffrous (a phob un ond un yn sgwennu eu nofel gyntaf) gyda barn, cyngor a brwdfrydedd grŵp amrywiol o bump cyd-awdur ifanc gafodd eu dethol o al-wad agored genedlaethol i ddarganfod lleisiau’r genhedlaeth nesaf o sgwennwyr Cymraeg. 

Tim – Elgan Rhys gyda Tomos Jones
Tami – Mared Roberts gyda Ceri-Anne Gatehouse 
Aniq – Marged Elen Wiliam gyda Mahum Umer
Robyn – Iestyn Tyne gyda Leo Drayton
Cat – Megan Angharad Hunter gyda Maisie Awen 

Mae’r gyfres newydd gyffrous hon yn cofleidio cymhlethdodau pum ffrind ym Mlwyddyn 11 Ys-gol Gyfun Llwyd – Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat. Mae’r bum nofel yn dilyn criw o ffrindiau wrth iddynt ddarganfod y pŵer sydd gan eu harallrwydd pan maen nhw’n dod at ei gilydd fel cymuned. Gyda phob nofel tua 20,000 o eiriau yr un, mae Y Pump yn adrodd stori pob cymeriad fesul un, gyda’r naratif yn y person cyntaf, a hanesion y pum cymeriad yn gorgyffwrdd yn y pum nofel. Yn eu tro, mae pob nofel yn dathlu’r amrywiaeth sydd yng Nghymru heddiw ac yn trafod pynciau me-gis hil, rhywedd a iechyd meddwl.
Dywed Elgan Rhys, rheolwr a golygydd creadigol y prosiect ac awdur nofel gyntaf y gyfres Tim (gyda Tomos Jones):
“Yn y flwyddyn ddiwethaf mae llawer ohonom wedi dod i gredu bod dim amser i fod yn hunanfodlon gyda’n breintiau na pharhau i anwybyddu’r diffyg cynrychiolaeth yn ein diwydiannau creadigol. Gobaith Y Pump yw i annog ffyrdd mwy cydweithredol a chynhwysol o greu gwaith newydd, cyffroi rheiny sydd ddim wedi arfer gweld eu hunain mewn llenyddiaeth Gymraeg, a rhoi platfform i leisiau newydd Cymreig gael eu adlewyrchu’n awthentig.”
Dywed Manon Steffan Ros, mentor creadigol yr awduron: 
"Mae hi wedi bod yn fraint gwirioneddol cael bod yn rhan o'r prosiect yma. Gwreiddyn y prosiect oedd deisyfiad Elgan i greu cyfleoedd i rymuso lleisiau newydd o fewn llenyddiaeth Gymraeg, a thrwy hynny mae o, a gweddill yr awduron i gyd, wedi creu cyfres unigryw, difyr a hollol gy-fareddol. "
Cafodd clawr pob nofel ei ddylunio gan Steffan Dafydd (@penglogco) gyda’r awduron a’r cyd-awduron yn mynegi barn ar hyd y daith. Dilynwch gyfrif instagram @ypump_ i weld gwaith dy-lunio Steffan Dafydd ac i gael holl newyddion a gwaith hyrwyddo’r awduron a’r cyd-awduron. Ewch i ymweld hefyd â sianel Y Pump ar AM www.amam.cymru/ypump i weld cynnwys diwed-daraf y gyfres.
Dywed Meinir Wyn Edwards, Golygydd yng nghwmni Y Lolfa: “Mae’n bleser gan y Lolfa gy-hoeddi nofelau mor bwerus ac mor ffres ar gyfer oedolion ifanc, ac maen nhw’n sicr yn torri tir newydd yn yr iaith Gymraeg. Mae’n brosiect uchelgeisiol, ac mae’n gyffrous iawn fod gan Gymru awduron ifanc talentog tu hwnt sydd wedi creu pum nofel a phum cymeriad a fydd yn aros yn y cof.” 

Dywed Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi, Cyngor Llyfrau Cymru
 “Mae’r Cyngor yn falch iawn o allu cefnogi awduron, dylunio, cyhoeddi a marchnata’r gyfres ac yn gweld hwn yn fodel cyffrous iawn o weithio wrth i dîm o awduron ddilyn arweiniad a gwele-digaeth Elgan a derbyn cefnogaeth Manon, i gynhyrchu cyfres o lyfrau amserol a phwysig ar yr un pryd heb orfod disgwyl misoedd am y nesaf bob tro. Rydym yn falch o gefnogi nofelau cyntaf pedwar o’r awduron ac yn edrych ymlaen at weld y cyd-awduron yn cyhoeddi eu gweithiau llawn eu hunain yn y man.”