Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyfle i ysbrydoli merched bach Cymru drwy gael eu henwau mewn llyfr newydd cyffrous!

Mae awdur newydd yn chwilio am enwau genethod gwych a merched medrus fel rhan o’i phrosiect newydd. Mae Medi Jones-Jackson, sy’n byw yn Bow Street ger Aberystwyth, wedi gweithio ym myd llyfrau plant ac wedi rheoli prosiectau hyrwyddo darllen.

 

Yn mis Mai eleni, bydd cyfrol newydd, ysbrydoledig, yn cael ei chyhoeddi gan y Lolfa – Genod Gwych a Merched Medrus. Bydd y llyfr yma wedi’i anelu at blant 5 i 10 oed ac yn cofnodi hanes 13 o ferched o Gymru o’r byd cerddoriaeth, llên, hanes, seryddiaeth, gwyddoniaeth, celf, chwaraeon ac ati, sydd wedi cyflawni campweithiau yn eu meysydd penodol ac yn arwresau Cymraeg. Bydd Dyfan Williams yn gwneud y gwaith dylunio a Telor Gwyn, yn wreiddiol o ardal Aberystwyth, yn creu lluniau ar gyfer y gyfrol.

 

Fel rhan o’r llyfr, bydd enwau merched medrus a genethod gwych bach Cymru yn ymddangos yn batrwm ar y cloriau mewnol, ac mae’r awdur yn gofyn i bobl anfon enwau ati.

 

Meddai Medi: “Dyma gyfrol gwbl wreiddiol yn y Gymraeg – gan ferch, am ferched ac i ferched bach Cymru heddiw. Bydd y llyfr yn gyflwyniad perffaith i rai o ferched blaenllaw Cymru a wnaeth gyrraedd y brig a newid siâp ein cenedl. Mae’n gyfle i ferched bach Cymru berchnogi’r llyfr trwy gael eu henwau wedi eu hargraffu yn y gyfrol bwysig hon.”

 

Os ydych chi’n adnabod geneth wych neu ferch fedrus rhwng 5 a 10 oed, ac os hoffech chi weld ei henw wedi mewn print yn y llyfr cyffrous, llawn lliw, cysylltwch yn uniongyrchol â Medi drwy e-bostio [email protected] cyn 18fed o Ebrill 2019, gan nodi enw llawn y ferch. Mae lle i nifer cyfyngedig, felly’r cyntaf i’r felin!

 

Dyma gyfrol i ysbrydoli ac i addysgu merched bach Cymru heddiw. Byddwch yn rhan ohoni!