Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cofnodi newidiadau enfawr: Hanes Menywod Cymru yn y ganrif ddiwethaf

Mae ffrwyth ymchwil, cydweithio a chofnodi a wnaethpwyd bron i ugain mlynedd yn ôl yn gweld golau dydd o’r diwedd gyda chyhoeddi cyfrol gyfoethog yn adrodd hanes difyr ac onest menywod o bob rhan o Gymru. Mae Hanes Menywod Cymru 1920–1960: Yn eu geiriau eu hunain  gan Catrin Stevens, ac arweinydd y prosiect yma, yn seiliedig ar leisiau dros fil o fenywod.

 

“Heb ffynonellau does dim hanes,” meddai’r awdures a hanesydd Catrin Stevens, a oedd yn Bennaeth Adran Hanes a Hanes Cymru yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin ar ddechrau’r prosiect. Aeth ati fel rhan o’i chyfnod yn Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr i ddathlu’r mileniwm trwy sicrhau grant hael gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Bwriwyd ati gyda’r nod uchelgeisiol o holi 1,000 o fenywod ym mhob cwr o Gymru am wahanol agweddau o’u bywydau: o addysg i waith, caru i fagu plant, gwleidyddiaeth a’r Gymraeg.

 

“Y gweithwyr maes fu’n allweddol i lwyddiant y prosiect, sef Ruth Morgan a Sharon Owen. Roeddent yn gwbl ymroddedig i’r prosiect, ac roedd llu o dros hanner cant o wirfoddolwyr hefyd yn help mawr,” meddai Catrin, gan ychwanegu:

 

“Roedd yn bwysig iawn cofnodi a diogelu’r ffynonellau yma. Cafwyd cyfweliadau onest a ddiffuant gyda’r menywod, a chyflwynent ddarlun amhrisiadwy o’r newidiadau enfawr ym mywydau menywod dros bum degawd yr hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. O fewn hanner canrif arall bydd y dystiolaeth hon yn ddieithr ac estron iawn i drigolion Cymru.”

 

Mae’r gyfrol yn llawn lluniau a ddaw o archif y Llyfrgell Genedlaethol a chasgliadau personol aelodau Merched y Wawr.

 

Meddai Tegwen Morris, Trefnydd Cenedlaethol Merched y Wawr, “Dyma ddarlun gwirioneddol ddifyr o gyfnod mewn hanes na chaiff ei adlewyrchu yn llyfrau hanes Cymru. Mae’n braf gweld y freuddwyd yn dod yn realaeth a rhannu’r cofnod difyr yma a sicrhau’r cofnodion ar gyfer y dyfodol.”