Chwedlau ar y Cledrau
Trefnwyd y Daith Awdur ar y cyd gan y Cyngor Llyfrau a threnau Arriva Cymru wedi i gyfrol Meinir, Deg Chwedl o Gymru a gyhoeddwyd gan wasg y Lolfa, gael ei chynnwys ar restr fer Gwobr Tir na n-Og eleni. Mae llyfrau Meinir am chwedloniaeth Cymru, cyfres Chwedlau Chwim a Folk Tales in a Flash!, eisoes wedi profi'n boblogaidd iawn ymhlith plant yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Cafodd y disgyblion y cyfle i ddysgu am dreftadaeth lenyddol a diwylliannol Cymru wrth gael blas ar chwedlau oedd yn perthyn i'w hardaloedd.
'Mae'r syniad o daith Chwedlau ar y Cledrau yn wych,' meddai Meinir Wyn Edwards. 'Mae hi'n Flwyddyn y Chwedlau eleni wrth gwrs, a pha le gwell i adrodd rhai o'n straeon mwyaf cyfarwydd ni nag yn y llefydd maen nhw wedi eu lleoli. Roedd y daith ar hyd arfordir Bae Ceredigion yn fendigedig. Does dim rhyfedd ei bod hi'n un o deithiau trên mwyaf epig y byd, yn ôl papur newydd y Guardian!'
Yn ystod y diwrnod cyntaf fe gafodd plant Ysgol Tanycastell y cyfle i deithio o Harlech i Fachynlleth a chlywed am stori Cantre'r Gwaelod gan wneud gweithgareddau ar y trên yn ogystal ag ymweld â MOMA, yr amgueddfa gelfyddyd fodern, yn y Tabernacl ym Machynlleth. Ar yr ail ddiwrnod fe deithiodd plant Blwyddyn 6 Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth i fyny i Harlech a chael clywed stori Branwen a Bendigeidfran yn y castell.
'Hoffwn ddiolch yn fawr i Helen Jones o'r Cyngor Llyfrau am drefnu'r daith, i Arriva Cymru, ac i athrawon a disgyblion ysgolion Tanycastell a Bro Hyddgen am y cyfle i rannu rhai o chwedlau Cymru. Roedd hi'n braf cael bod yn ôl ynghanol plant am ddau ddiwrnod,' ychwanegodd Meinir, a fu'n athrawes gynradd am 18 mlynedd. 'Roedd ymateb y plant yn arbennig, a'r gobaith nawr yw y byddan nhw'n gallu trosglwyddo'r chwedlau i'r genhedlaeth nesaf, a bod y straeon yn para am ganrifoedd eto!'
Meddai rhai o'r plant fod y diwrnod wedi bod 'llawn cyffro a hwyl'. Roedd Beca wedi mwynhau 'clywed am y chwedlau gwahanol, yn enwedig chwedl Branwen a Bendigeidfran' a Gwenllian wedi 'mwynhau'r mannequin challenge yn y castell'.