Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Casgliad i godi calon gan yr Eisteddfod Genedlaethol

Ar ôl blwyddyn a mwy anodd, gyda phawb yn delio â heriau newydd ac yn dod i arfer â threfn newydd i fywyd, yr haf hwn cyhoeddir cyfrol newydd sydd yn cwmpasu llesiant corfforol a meddyliol. Bydd Haf o Hyder yn cynnwys saith stori newydd a saith darn o farddoniaeth neu gân gan awduron amrywiol o Gymru. Mae’r casgliad wedi’i greu ar y cyd rhwng Y Lolfa a’r Eisteddfod Genedlaethol, ac mewn cydweithrediad â chwmni adnoddau digidol 4Pi Productions.


Meddai Elen Elis, Trefnydd a Phennaeth Artistig Eisteddfod Genedlaethol Cymru:

“Mae hi wedi bod yn gyfnod heriol i bawb yng nghanol y pandemig, a’r bwriad y tu ôl i’r prosiect ‘Haf o Hyder’ yw cefnogi ac annog awduron a beirdd newydd, yn ogystal â rhai mwy profiadol, i fod yn greadigol, a chyflwyno straeon a cherddi i godi calon y genedl.”

“Mae’n gyfrol ffres, gyda llesiant, hyder a gobaith yn treiddio drwyddi. Roedd hyn yn hollbwysig i ni wrth gynllunio yng nghyfnod y pandemig erchyll hwn. Caiff y gyfrol ei chyhoeddi wythnos yr Eisteddfod AmGen law yn llaw â pherfformiadau o’r gwaith mewn ffordd ddychmygus rithwir dan ofal cwmni 4Pi. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i weld penllanw’r gwaith!”

Mae’r casgliad yn rhoi cyfle i glywed lleisiau rhai o’n hawduron gorau wrth iddyn nhw drafod y thema llesiant. Ceir dehongliadau gwahanol – llesiant ffisegol a meddyliol, a llesiant mwy cyffredinol er lles Cymru a’r byd, fel yr amgylchedd, cyfartaledd, treftadaeth, cymunedau bywiog, amlddiwylliannol – ond bod rhaid i’r deunydd lawenhau a magu hyder y darllenwyr i gredu fod pethau’n gwella.

Meddai golygydd y gyfrol, Meinir Wyn Edwards, “Yn dilyn cyfnod anodd i bob un yn ddiweddar, mae’n bleser cael cyhoeddi cyfrol o lenyddiaeth sy’n codi calon! Mae’r darnau yn amrywiol iawn o ran eu themâu a’u naws – o ganeuon i lythyrau, o sgript i straeon – gan awduron profiadol yn ogystal â llenorion ifanc, a rhai sy’n cyhoeddi eu gwaith mewn print am y tro cyntaf. Mae rhywbeth i blesio pawb yn y gyfrol hon.”

 

Bydd darlleniadau gan cyfranwyr Haf o Hyder yn cael eu rhannu yn rithiol yn ystod yr Eisteddfod AmGen. Ewch i’r Babell Lên am 10:30yb o ddydd Llun 2ail o Awst i ddydd Sadwrn 7fed o Awst.

 

Cyfranwyr:

Dyfan Lewis, Marged Tudur, Gwynfor Dafydd, Osian Owen, Beth Celyn, Eurig Salisbury, Ifan Pritchard, Llŷr Gwyn Lewis, Siân Melangell Dafydd, Nia Morais, Ciaran Fitzgerald, Rhiannon Lloyd Williams, Morgan Owen a Mared Llywelyn.