‘Cardi-Noir’ yn Mynd o Nerth i Nerth

Mae Gareth Prior yn enw cyfarwydd iawn i'r sawl sydd yn mwynhau storïau trosedd 'Cardi-Noir' Geraint Evans. Mae’r ditectif erbyn hyn yn mynd ati i ddatrys pumed achos mewn nofel newydd sy’n cael ei chyhoeddi yr wythnos hon.

Mae'r nofel, Digon i’r Diwrnod, yn gyffrous, llawn tensiwn ac yn dilyn un o gonfensiynau clasurol y nofel dditectif - confensiwn y ‘stafell gaeedig’,
“Fel mae’r teitl yn awgrymu mae holl ddigwyddiadau’r nofel yn syrthio o fewn cwmpawd amser o bedair awr ar hugain ac felly mae’r syniad yn deillio o osod y prif gymeriadau mewn un man ac yn erbyn y cloc a gweld beth sy’n digwydd”, meddai Geraint Evans.

Mae yna warchae yn nhŷ y barnwr John Simmonds, sy’n falch iawn o’i lwyddiant fel barnwr. Wrth i’r teulu ddod at ei gilydd i ddathlu pen-blwydd priodas John a’i wraig Miriam, mae’r teulu oll yn cael eu cadw dan warchae gan ddau ddeliwr cyffuriau. Mae'r nofel yn symud o'r presennol, sef y gwarchae, i'r gorffennol lle ceir ôl-storïau'r cymeriadau, sydd yn llenwi'r bylchau o ran esboniad ar eu hymateb i'r gwarchae. Wrth i'r gwarchae fynd ymlaen yn y presennol, daw cyfrinachau pawb i'r amlwg, gyda chanlyniadau erchyll.

Mae nofelau blaenorol Geraint Evans wedi cael canmoliaeth uchel, gyda Chlwb Darllen rhaglen deledu Prynhawn Da yn rhoi '9 allan o 10, gan ymylu ar 9 a hanner!" i Y Gelyn Cudd.

Gyda'r diddordeb a hoffter am nofelau'r genre yma yn mynd o nerth i nerth - datgelwyd yn Ebrill 2018 mai nofelau trosedd oedd â’r gwerthiant uchaf yn 2017 -  mae'r gyfres yma yn llenwi bwlch yn y farchnad Gymraeg.

Mae’n nofel “dywyll, cyfoes a charlamus o ran plot - yr olaf yn fater o raid o ystyried y wasgfa amser!” meddai Geraint, gan ychwanegu: “Credaf fod darllenwyr yn hoffi cyfres, ac mae’r syniad am y nofel nesaf eisoes yn cyniwair yn fy mhen”.

Dywed Owain Schivone am Digon i’r Diwrnod  “Trais. Trosedd. Twyll. Stori sy’n cydio o’r dudalen cyntaf. Mae un o awduron trosedd gorau Cymru’n ôl i‘n tywys  ar antur sy’n ymweld ag isfyd tywyll a chymleth’.

Mae Geraint Evans yn byw yn Nhal-y-bont, Ceredigion ond fe'i magwyd yn ardal lofaol Sir Gaerfyrddin. Bu'n ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth ac am gyfnod yn Warden ar Neuadd Breswyl Pantycelyn.