Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Bywyd lliwgar Eirian Wyn: gweinidog, consuriwr, actor, caplan Academi'r Elyrch... a thad Fflur Wyn

Cyhoeddir hunangofiant cynhwysfawr difyr Eirian Wyn, y gweinidog lliwgar a phoblogaidd o Frynaman yr wythnos hon, Hud a Lled. Mae’r hunangofiant yn llawn hanesion hoffus sydd wedi’u hysgrifennu ar y cyd gyda’i ffrind: y nofelydd, y golygydd a’r cofiannydd Aled Islwyn.

 

Mae Hud a Lled yn sôn am ei blentyndod, gan gynnwys yr hanes pan gafodd afiechyd yn ifanc iawn. Clefyd Perthes oedd yr afiechyd, sef aflwydd sy’n effeithio ar gymal y glun. Bu’n rhaid iddo aros yn Ysbyty Abertawe am bum wythnos yn gorwedd ar ei gefn – ac yna ddysgu cerdded eto. Canfuwyd hefyd ei fod yn dioddef o ddyslecsia yn ifanc iawn, rhywbeth mae’n cyfaddef sydd wedi creu tipyn o anhawster iddo dros y blynyddoedd. Mae hefyd wedi cael problemau gyda’i olwg ac anhwylder ar y galon yn fwy diweddar. Ond drwy’r cyfan mae personoliaeth bositif yr awdur yn disgleirio.

 

Yn y Cyflwyniad brwd gan y Parchedig Irfon Roberts, mae’n disgrifio’r tro cyntaf i’r ddau gwrdd tra oedd Eirian Wyn yn weinidog ifanc, gwallt hir, gyda hoffter o yrru ar hyd ffyrdd culion Sir Benfro ar gefn beic modur pwerus:

 

“Gwisgai Eirian yn wahanol i’r rhelyw o weinidogion eraill ac roedd ei wallt bron hired â Samson...Yr hyn edmygwn fwyaf yn ei gylch o’r dechrau oedd ei barodrwydd i fod yn ef ei hun ac i herio confensiwn... Eirian fu Eirian erioed a neb arall.”

 

“Daw i’r amlwg ei aml ddoniau, ei hiwmor iach, ei deyrngarwch i deulu, bro a chenedl, ei gariad at iaith, ei ddiddordeb mewn pêl-droed, ei gonsýrn am bobl ifanc, ei hoffter o blant a theithio, ei ymroddiad i ddysgu iaith ychwanegol, ei ddaliadau gwleidyddol a chrefyddol.”

 

Yn ganolbwynt ei fywyd, mae pwyslais ar ei deulu – ei rieni, brawd a chwaer – ond mae dwy sy’n graig iddo drwy’r holl helyntion, sef Helen ei wraig a Fflur ei ferch. Mae Fflur Wyn yn adnabyddus fel cantores opera.

 

Mae Eirian Wyn wedi bod yn bregethwr mewn sawl ardal yng Nghymru gan gynnwys gogledd Sir Benfro, Meinciau, Pedair Heol, Glanaman, Garnant a Threforys, Abertawe. Mae hefyd wedi cael amrediad eang o swyddi eraill mewn sawl maes dros y blynyddoedd, wedi teithio yn Ewrop ac yn America, a dod i gysylltiad â phob math o bobol ddiddorol.

 

Mae’n aelod o’r Magic Circle – ef oedd y consuriwr cyntaf i wneud yr arholiad yn y Gymraeg – ac mae wedi teithio ledled Cymru fel Rosfa, gyda Mici Plwm. Bu hefyd yn cynhyrchu sioeau i’r Urdd a chyflwyno’i raglen radio ei hun, Parch. Bu hefyd yn actio mewn nifer o raglenni teledu a chynyrchiadau llwyfan ac mi gafodd ran yn ffilm Mr Nice gyda Rhys Ifans yn 2011. Mae Eirian wedi bod ynghlwm â Stadiwm Liberty ers blynyddoedd fel gwesteiwr diwrnod gêm, dyn y cyhoeddiadau ac yn Gaplan Academi’r Elyrch ers blynyddoedd ac mae wrth ei fodd ymysg darpar-chwaraewyr a chwaraewyr mwy profiadol pêl-droed clwb Abertawe.

 

Fe gynhaliwyd lansiad ei hunangofiant yn Stadiwm Liberty, Abertawe ar nos Iau'r cyntaf o Dachwedd. Cafwyd lansiad llwyddiannus gyda sesiwn holi ac ateb rhwng yr awdur ac Aled Islwyn, perfformiad gwych gan Fflur Wyn a hyd yn oed bach o hud a lledrith gyda thric consurio!