Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn yn ysbrydoli llyfr newydd Bethan Gwanas

Mewn llyfr newydd am y ferch fach annwyl a busneslyd Cadi, mae’r awdures Bethan Gwanas wedi teithio nôl mewn amser i fyd y Celtiaid, gan ddefnyddio safle Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn fel ysbrydoliaeth.

 

Mae Cadi a'r Celtiaid yn llawn darluniadau lliwgar gan Janet Samuel sydd yn dod â’r cymeriadau a bywyd y Celtiaid yn fyw i ddarllenwyr ifanc.

 

“Dwi wrth fy modd efo’r ffordd mae Janet yr arlunydd wedi darlunio’r safle – a’r cymeriadau Celtaidd sydd yn y stori!” meddai Bethan Gwanas am waith y darlunydd sydd wedi darlunio’r pedair stori yng nghyfres Cadi.

 

Mae’r antur yma wedi’i hysbrydoli gan y ffaith bod plant ysgolion cynradd yn astudio cyfnod y Celtiaid fel rhan o’r cwricwlwm hanes. Er hynny, mae prinder llyfrau a nofelau Cymraeg i ddod â’r byd hwnnw’n fyw i blant.

 

Meddai Bethan Gwanas:

“Mae ’na nifer o fannau diddorol i ymweld â nhw yng Nghymru er mwyn dysgu am ein hen, hen hanes, ond doedd neb, hyd y gwyddwn i, wedi dod â Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn i mewn i stori ar gyfer plant 5 i 8 oed. Ro’n i wedi bod yno gyda chriw o ffrindiau yn ddiweddar, ac mae’n le rhyfeddol.”

 

Yn debyg i lyfrau blaenorol Cadi, mae yna foeswers yn y stori hefyd:

“Ro’n i hefyd yn gwybod bod plant heddiw yn dysgu am ‘Feddylfryd o Dwf’ neu ‘Fetawybyddiaeth’, sef dysgu bod angen dyfalbarhau er mwyn dysgu pethau newydd a bod gwneud camgymeriad yn rhywbeth positif gan ein bod yn dysgu o hynny. Felly mae’r elfen honno yn y stori hefyd.”

 

Wrth ateb y cwestiwn ble fydd Cadi’n mynd y tro nesaf, dywedodd Bethan:

Dwi ddim yn siŵr be fydd antur nesaf Cadi. Mae plant dros Gymru wedi cynnig y gofod, y jyngl, y syrcas, yr Antarctig ac ati ond os oes gan rywun syniadau eraill, rhowch wybod ar bob cyfri!”