Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Bronaldo a Gari Pêl yn mynd benben â’i gilydd ail rifyn Mellten

Bydd y cymeriadau Gari Pêl a Bronaldo yn mynd benben yn y rhifyn diweddaraf o Mellten a gyhoeddir yr wythnos hon wrth i'r ddau gael cystadleuaeth i weld pwy yw'r chwaraewr pêl-droed gorau.

Dyma'r ail rifyn o'r comic newydd chwarterol i blant Cymru, comic Mellten.

Wedi ei anelu at blant rhwng 7 ac 13 oed yn bennaf, dyma'r comic Cymraeg gwreiddiol cyntaf i'w gyhoeddi ers degawdau. Wedi ei olygu gan un o gartwnwyr gorau a mwyaf gwreiddiol Cymru, Huw Aaron mae Mellten yn cynnwys cyfraniadau gan amryw o artistiaid, cartwnwyr ac awduron.

Ymhlith tudalennau'r ail rifyn cawn ailymuno â stori Gwil Garw – yr arwr o oes cyn hanes a chasglwr angenfilod, Bloben a Chapten Clonc – arwr hardda'r bydysawd. Dilynwn anturiaethau'r peilot ifanc Iola o'r flwyddyn 4002 sydd yn breuddwydio am ennill cystadleuaeth Rali'r Gofod – ond mae'n styc ar blaned Cymru Newydd. Bydd yr ail rifyn hefyd yn cynnwys y ffefryn 'Ble mae Boc?' gyda'r ddraig fach druan ar goll yn stadiwm dinas Caerdydd yng nghanol torf berw gwyllt wedi i Gymru sgorio!

Mae hefyd cyfle i ennill pâr o docynnau i weld tîm rygbi Cymru'n chwarae yn erbyn Siapan yn Stadiwm y Principality ar y 19eg o Dachwedd.

'Mae hi wedi bod yn wych i weld ymateb brwdfrydig plant Cymru i rifyn cyntaf Mellten, ac mae'r ail rifyn yn llawn dop o antur, jocs dwl a cymeriadau liwgar unwaith eto!' meddai golygydd y comic, Huw Aaron.

Bydd Huw Aaron hefyd yn ymuno a hwyl a sbri y 'Penwythnos Anferthol' yng Nghaernarfon y penwythnos hwn gan ymweld â Llyfrgell Penygroes am 10 o'r gloch a Palas Print a, 2.45pm o'r gloch ddydd Sadwrn yr 17eg o Fedi ar gyfer sesiwn o greu cartwns.

Bydd y rhifyn nesaf o Mellten yn ymddangos ym mis Rhagfyr ond bydd yr hwyl yn parhau ar y wefan gyda chynnwys newydd yn cael ei ychwanegu yn gyson.

Mae modd prynu copïau unigol o gomic Mellten neu gellir tanysgrifio am £8 y flwyddyn drwy'r wefan, ysgolion, siopau llyfrau lleol neu yn uniongyrchol gan wasg Y Lolfa.