Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

'Atgyfodi Hen Arf' - Argraffu Sticeri Cymraeg! unwaith eto

Mae gwasg Y Lolfa wedi cynhyrchu sticeri 'Cymraeg!' newydd gan atgofodi hen arf a fu'n boblogaidd iawn ym mrwydr yr iaith yn ystod yr 1960au.

Argraffwyd y rhai cyntaf erioed gan gwmni Gwenlyn Evans yng Nghaernarfon ar gais Penri Jones a Robat Gruffudd ym 1962 er mwyn eu plastro dros goridorau Seisnigaidd Coleg Bangor. Roedd hyn yn rhan o frwydr tô newydd o fyfyrwyr yn erbyn gwrth-Gymreigrwydd y Coleg o dan y Prifathro Charles Evans.

Pan sefydlodd Robat Gruffudd gwmni'r Lolfa ym 1967 fe gynhyrchodd sticeri ei hun a'u gwerthu trwy siopau a thrwy Tafod y Ddraig, cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith. Buont yn gwerthu'n wych am ddegawdau i aelodau'r Gymdeithas ac eraill.

Yn trafod y penderfyniad o ail gynhyrchu'r sticeri, fe ddywedodd Robat Gruffudd, 'Mae'r angen am sticeri Cymraeg yn dal mor fawr ag erioed -- er gwaethaf pawb a phopeth!'

Mae'r sticeri newydd yn rhai crwn, deniadol, mewn dau liw sy'n gwerthu am £2 am rolyn o 100 trwy siopau neu am £3 post rhad o'r Lolfa.

Gellir hefyd eu prynu o stondin Y Lolfa ym maes eisteddfod Y Fenni ym mis Awst.