Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Antur newydd gan enillydd Llyfr y Flwyddyn

Efallai na fyddwch chi’n gallu mynd ar wyliau i wlad boeth eleni oherwydd Cofid, ond mae’r awdur Ifan Morgan Jones wedi darparu’r ddihangfa berffaith – nofel Gymraeg wedi ei lleoli ar ynys drofannol ar ochr arall y byd.

Er mai cynnig “chwip o nofel antur” oedd y nod pennaf wrth ysgrifennu’r antur hon, dywed yr awdur bod y nofel hefyd yn trafod rhai o bynciau llosg pennaf y dydd. Mae’r rheini’n cynnwys natur gwladychiaeth, twf cenedlaetholdeb, newid hinsawdd a’r argyfwng tai yng Nghymru.

Disgrifiwyd y gyfrol gan Jon Gower fel “stori hynod fywiog gan storïwr-wrth-reddf sy’n rhyfeddol o amserol, dameg gwbl hanfodol a bywiog am y Gymru gyfoes”.

Meddai Ifan Morgan Jones, sydd yn arweinydd y cwrs Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor, ei fod eisiau ysgrifennu nofel wahanol iawn i Babel, a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn y llynedd.

“Mae’r nofel wedi ei lleoli ar ynys, felly dw i’n siŵr y bydd llawer o bobol yn meddwl fy mod i dan ddylanwad y pandemig Cofid wrth ei llunio hi,” meddai Ifan Morgan Jones.

“Ond rwy’n credu bod nifer o faterion pwysicaf y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn chwarae ar fy meddwl wrth ei hysgrifennu hi, fel ymgyrch Black Lives Matter, effaith newid hinsawdd a’r galwadau ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.

“Fel newyddiadurwr dw i’n meddwl bod gan nofelau ran i’w chwarae yn ein sgyrsiau cenedlaethol hefyd. Ac efallai eu bod nhw’n cynnig mwy o gyfle i’r awdur a’r darllenydd feddwl am y pynciau hyn na phwt o erthygl neu drydariad!

“Ond y nod yn bennaf oedd ysgrifennu chwip o nofel ddarllenadwy mewn lleoliad egsotig gyda digon o antur, hiwmor, digwyddiadau annisgwyl, trais, rhyw a hwyl.

“Y gobaith ydi sicrhau, hyd yn oed os nad ydi pobol yn gallu mynd ar wyliau eleni oherwydd Cofid, eu bod nhw’n gallu dianc drwy ddalennau’r llyfr hwn i rywle gwahanol iawn i Gymru.”

Yn Brodorion mae Efa, Myfyr, Teleri ac Aled yn cael cynnig i fynd ar antur fentrus, a gwyliau am ddim ar yr un pryd – sut allai’r pedwar wrthod cynnig o’r fath? Ond pan maen nhw’n glanio ar yr ynys egsotig ymhell o Gymru mae paradwys yn bell o fod yn berffaith. Ac mae gan yr ynys ei hun gyfrinachau brawychus sydd ar fin dod i’r wyneb.

Enillodd Ifan Morgan brif wobr Llyfr y Flwyddyn yn haf 2020 am ei nofel Babel, a chipio gwobr Barn y Bobl ar yr un pryd. Babel oedd y nofel agerstalwm gyntaf yn y Gymraeg, a chafodd y gyfrol ganmoliaeth uchel. 

Meddai Ifan am ei lwyddiant: “Rwy’n credu mai cael gwybod i mi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn oedd yr unig dro erioed i mi fod yn wirioneddol gegrwth. 

“Roedd yn fraint anhygoel bod ar y rhestr o gwbwl a doeddwn i ddim yn gallu coelio fy nghlustiau pan ges i wybod fy mod i wedi ennill y brif wobr. Ro’n i'n hanner disgwyl iddyn nhw gysylltu’n ôl a dweud mai wedi cawlio oedden nhw!”