Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Antur ioga a dysgu plant i warchod y ddaear

Yr wythnos yma cyhoeddir antur ioga newydd sbon i blant – Y Wariar Bach (Y Lolfa). Dyma’r ail yn y gyfres o lyfrau gan yr actores a’r athrawes ioga Leisa Mererid, yn dilyn llwyddiant Y Goeden Ioga yn 2019. Mae Y Wariar Bach yn dysgu plant am anifeiliaid prin a phwysigrwydd gwarchod y ddaear. Meddai’r awdures Leisa Mererid am ei ymweliadau niferus i ysgolion:

Mae ymateb plant ysgolion cynradd i’r Goeden Ioga wedi bod yn anhygoel! Maen nhw wrth eu boddau yn cael bod yn rhan o’r stori, ac yn hytrach na gwrando yn unig, mae gwahoddiad ac anogaeth i symud ein cyrff – i bersonoli’r hedyn, y tywydd, y goeden a’r anifeiliaid – a gwneud hynny drwy gyfrwng siapiau ioga. Mae symud fel hyn yn dod â’r stori ‘yn fyw’ ac yn wych ar gyfer datblygu hyder corfforol yn ogystal â chefnogi datblygiad iaith a lleferydd plant ifanc. Mae ymateb plant sydd ag anghenion dysgu i’r sesiynau ioga/ymweliadau ysgol wedi bod yn syfrdanol, gydag athrawon yn synnu at eu hymateb. Mae Y Wariar Bach yn dilyn yr un patrwm, a’r gobaith yw gwneud mwy o ymweliadau gydag ysgolion a fydd yr un mor boblogaidd!”

Mae Y Wariar Bach yn dilyn Miri, merch ifanc chwilfrydig. Bob bore mae Miri yn cyfarch yr haul a’r ddaear cyn camu ar ei mat ioga i gyfarch y byd. Wrth iddi gamu ar y mat, mae’n mynd ar antur i wlad wahanol a dysgu am y wlad honno. Y tro yma mae Miri yn dysgu sut i anadlu, ymestyn a symud ei chorff fel pobl ac anifeiliaid y Congo. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i wneud nifer o ymarferion anadlu gan gynnwys ‘Anadl y llew’ ac ‘Anadl y neidr’, a hefyd sut i wneud nifer o ymarferion siapiau ioga gan gynnwys ‘Duwies’, ‘Wariar’ a ‘Haul Hapus’.

“Mae rhai o’r anifeiliaid mae Miri yn cwrdd â nhw yn y llyfr mewn perygl ac yn cael eu herlid. Mae llwyth brodorol basn y Congo sef pobl y Baku hefyd yn cael eu herlid o’u cartref gan gwmnïau mawr olew palmwydd sydd eisiau dymchwel y coedwigoedd glaw. Er bod rhai o’r anifeiliaid yn codi ofn ar Miri mae pob un yn rhannu cyfrinach neu gyngor gyda hi, cyngor fydd yn ei helpu a’i harwain ar ei thaith drwy fywyd.”

“Yn bendant dwi’n cael fy ysbrydoli gan fyd natur a’n planed anhygoel ni. Mae Y Wariar Bach yn deyrnged i Mam – person anhygoel oedd â phersonoliaeth a phresenoldeb disglair a chynnes. Hi oedd haul ein teulu. Ymgais yw’r ddau lyfr i rannu ioga a’i werthoedd gyda chymaint o blant a theuluoedd ag sy’n bosib!” meddai Leisa Mererid.

Y Goeden Ioga oedd y llyfr cyntaf o’i fath yn y Gymraeg, llyfr sy’n cyflwyno ioga i blant, a ddisgrifiwyd yn “gyfrol wirioneddol hyfryd” gan Bethan Gwanas. Fel sydd yn Y Goeden Ioga mae yna ddilyniant ioga ond hefyd ymarferion anadlu i helpu reoli emosiynau, a doethinebau cadarnhaol (e.e. ‘Dal ati a pheidio byth rhoi’r gorau iddi!’) i helpu dysgu’r darllenwyr ifanc i dderbyn yr hyn fel y mae. Mae’r cynnwys yn addas i bob oedran, ac felly gall fod yn llyfr hyfryd i’w ddarllen fel teulu cyfan.