Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Ail lyfr am ferched Cymru i ysbrydoli plant

Yr wythnos hon cyhoeddir Genod Gwych a Merched Medrus 2 gan Medi Jones-Jackson. Mae’r ail lyfr yn dilyn llwyddiant ysgubol y cyntaf, a gyhoeddwyd yn 2019 ac a gyrhaeddodd restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020 yn ogystal â rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2020.

Mae Genod Gwych a Merched Medrus 2 yn cofnodi hanes 12 merch ysbrydoledig arall o Gymru ac mae’r awdures yn gobeithio bydd darllenwyr ifanc ar draws Cymru yn ymfalchïo yn ein hanes ni fel cenedl.

Meddai Medi Jones-Jackson, “Mae’r ail gyfrol wedi rhoi’r cyfle i fi gynnwys rhai merched nad oedd gofod i’w cynnwys yn y gyfrol gyntaf – fel Cranogwen a Vulcana, dwy ddynes gryf. Rwy wedi ceisio cynnwys merched o feysydd gwahanol, o gyfnodau gwahanol drwy hanes ac o wahanol rannau o Gymru. Rwy’n falch iawn o gynnwys Annie Atkins o Ddolwyddelan yn y gyfrol yma gan fy mod i’n ffan enfawr o’i gwaith hi. Rwy’n gobeithio drwy gynnwys ystod eang o ferched bydd rhywun yn berthnasol i bawb, ac yn ysbrydoli’r darllenydd – dyna beth sy’n bwysig. Fel y gyfrol gyntaf, mae Genod Gwych a Merched Medrus 2 yn llawn ffeithiau lloerig a wacky.”

Ceir hanes bywyd a ffeithiau diddorol am Vulcana, Ann Pettitt, Cranogwen, Lowri Morgan, Mary Vaughan Jones, Rachel Rowlands, Margaret Haig Thomas, Annie Atkins, Mary Quant, Shirley Bassey, Lucy Thomas, Meena Upadhyaya. Mae’r casgliad yn amrywio o ran lleoliad daearyddol a meysydd gwahanol gan gynnwys chwaraeon, gwyddoniaeth, llên, ffasiwn a cherddoriaeth. Mae pob un wedi cyflawni campweithiau yn eu meysydd penodol. Mae gweithgareddau llawn hwyl a lliwgar ar ddiwedd y gyfrol, sy’n cynnwys posau, holiadur, chwilair a chelf.

Cafodd Medi ei hysbrydoli’n wreiddiol wrth ddarllen stori cyn gwely i’w merch Anest, a oedd yn 6 oed ar y pryd. Cafodd ei hannog i ysgrifennu’r llyfr cyntaf gan ffrind ar ôl iddi gwyno ar Facebook am y diffyg a’r bwlch yn farchnad. Mae’n gyflwyniad perffaith i rai o ferched blaenllaw Cymru a wnaeth anelu’n uchel, cyrraedd y brig a newid siâp ein cenedl. 

Mae’r llyfr wedi’i ddylunio’n ddifyr ac yn lliwgar gan Dyfan Williams ac mae lluniau cartŵn Telor Gwyn yn ychwanegu at naws chwareus a hwyliog y gyfrol. Yn debyg i’r gyfrol gyntaf, rhestrir enwau rhai o ferched Cymru ar ddechrau ac ar ddiwedd y llyfr, ar ôl ymgyrch casglu enwau ar ddechrau’r gwanwyn eleni.

“Mae wedi bod yn brofiad hollol arallfydol gweld llwyddiant y gyfrol cyntaf. Rwyf wedi bod wrth fy modd yn gweld sut mae ysgolion wedi ymateb a chlyfrwch athrawon yn creu rhith o weithgareddau yn seiliedig ar Genod Gwych a Merched Medrus. Dwi mor falch fy mod i wedi taro’r e-bost gyda’r syniad gwreiddiol at y Lolfa – mae’r profiad wedi newid fy myd i, ac wedi dangos bod cymryd siawns weithiau yn talu ffordd.”