Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Aelod Cynulliad yn ysbrydoli nofel

Yr aelod cynulliad Elin Jones oedd un o brif ysbrydoliaeth awdur newydd wrth iddi ysgrifennu ei nofel gyntaf yn y Gymraeg.

Roedd canolfan Y Morlan yn Aberystwyth dan ei sang pan ddaeth dros cant o bobl i wrando ar y sgwrsio rhwng Elin Jones AC, yr adolygydd Catrin Beard â'r awdures leol Dana Edwards. Roedd y dair yno i drafod yr ysbrydoliaeth â'r cefndir tu ôl nofel newydd Dana, Pam?

Mae Pam? yn adrodd hanes Pam, Gwennan a Rhodri wrth iddyn nhw adael coleg a gwneud eu ffordd yn y byd yn ystod y ddegawd gythryblus sy'n arwain at sefydlu Cynulliad Cymru.

Ond mae'r tri'n rhannu cyfrinach, ac wrth iddyn nhw ddechrau mwynhau eu statws, a'r holl bethau eraill a ddaw yn sgil gyrfaoedd llewyrchus, mae'r hyn a ddigwyddodd yn Aber yn bygwth dinistrio popeth.

Cefnlen y nofel yw'r 90au hwyr - cyfnod sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd, etholiadau cyffrous,a twf cyfryngau Cymreig megis Radio Ceredigion.

Esboniodd Dana iddi ddewis gosod y nofel yn ystod y 90au am ei fod yn 'gyfnod gobeithiol, lle roedd yna ymdeimlad gwirioneddol bod modd newid cymdeithas a hynny yn deillio o weithgarwch a brwdfrydedd pobl gyffredin'.

I adlewyrchu nostalgia'r cyfnod chwarewyd hen glasuron pop o'r 90au yn ystod y noson ac roedd hen rifynnau o Gylchgrawn Golwg wedi eu gosod ar hyd y neuadd.

Nodwyd bod yna adlais o yrfa Elin Jones yn hynt prif gymeriad y nofel, Pam, gyda'r ddwy wedi eu hethol yn gynghorwyr lleol â'r ddwy wedi bod yn rhan o fenter Radio Ceredigion.

'Yn sicr dim ysgrifennu hanes Elin Jones oedd fy mwriad,' meddai Dana, 'er wrth gwrs roedd camp Elin, a'r nifer fawr o ferched a sicrhaodd seddau yn y Cynulliad cyntaf yn ysbrydoliaeth.'

'Roedd cynulleidfa wych i lansiad nofel newydd Dana Edwards yn y Morlan ar noson braf o haf yn Aberystwyth,' meddai Elin Jones AC 'Gwnes i fwynhau'r sgwrs gyda Dana a Catrin Beard – ac i danlinellu'r pwynt unwaith eto, nid fi yw Pam!'

Pam? yw ail nofel Dana Edwards yn dilyn llwyddiant The Other Half yn Saesneg ac fe'i dewiswyd fel Llyfr y Mis Cyngor Llyfrau Cymru ar gyfer Awst.