Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Actor yn agor ei galon am frwydr ei wraig â chancr

Mae un o actorion fwyaf adnabyddus Cymru yn datgelu'r frwydr ddewr ymladdodd ei wraig a chancr yn ei hunangofiant newydd a gyhoeddir yr wythnos hon.

Yn Hunangofiant Dyn Lwcus mae'r actor Hywel Emrys yn agor ei galon am frwydr ddewr ei wraig Liz a fu farw yn sgil cancr y llynedd, gan gyfleu ei brofiad yntau o golli rhywun mor agos i'r afiechyd creulon hwn.

'Roedd Liz yn fenyw unigryw' meddai Hywel, 'Roedd hi'n gryf, yn ddewr ac yn llawn hiwmor iach – hyd yn oed yn ystod y cyfnod anodd hwnnw.'

'Rwy'n gobeithio hefyd bydd sôn am yr hanes mewn ffordd mor agored o fudd i bobl sydd yn mynd drwy'r un profiad' meddai Hywel.

Yn fwyaf adnabyddus fel Derek, perchennog y Garej ar Pobol y Cwm, mae Hywel yn wyneb a llais cyfarwydd drwy Gymru benbaladr. Mae hefyd wedi actio mewn degau o raglenni a ffilmiau eraill. Yn yr hunangofiant agos-atoch hwn, mae'r actor hoffus yn adrodd stôr o storïau a throeon trwstan difyr.

Ysgrifennu am farwolaeth ei wraig arweiniodd at ysgrifennu hunangofiant cyfan.

'Catharsis a drodd yn gyfrol' meddai Hywel, 'Fe gollais i fy Nhad yn ifanc a dim ond atgofion niwlog sydd gen i ohono erbyn hyn felly rwy'n gobeithio drwy ysgrifennu'r gyfrol hon bydd yn gofnod i fy mhlant ohonai wedi i mi fynd'.

Daw canmoliaeth eisoes i'r gyfrol gan un o'i gyfeillion a'r actor fyd-enwog, Ioan Gruffudd, a ddywedodd, 'Dyma hunangofiant doniol a difyr – Hywel yw un o actorion mwyaf hoffus Cymru'.

Fe aned Hywel yng Nghaerfyrddin, yn fab y mans ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda'i blant Ffion a Sam.

Bydd lansiad y gyfrol yng nghaffi bar yr Hen Lyfrgell yn Nghaerdydd ar nos Fawrth y 29 o Dachwedd am 7 o'r gloch dan arweiniad Ieuan Rhys a cherddoriaeth gan Lisa Angharad.

Bydd ail lansiad yr wythnos ganlynol yng nghlwb rygbi'r Cwins yng Nghaerfyrddin ar nos Fawrth y 6ed o Ragfyr am 7 o'r gloch dan arweiniad yr actor Gwyn Elfyn.