Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Achos newydd cyffrous i Dditectif Taliesin MacLeavy

Mae’r ditectif Taliesin MacLeavy yn ôl – gydag achos newydd a phartner newydd - mewn dilyniant hir ddisgwyliedig gan yr awdur Alun Davies. Mae Ar Lwybr Dial yn dilyn y nofel hynod boblogaidd Ar Drywydd Llofrudd, ac yr ail mewn trioleg. Fel y cyntaf, mae’r ddirgelwch wedi’i leoli yn ardal Aberystwyth ac mae’r arddull yn adleisio storïau dirgelwch a chyfresi teledi Scandi, sy’n parhau i fod yn boblogaidd ledled y byd.

Mae Richard Harrington, oedd yn portreadu Ditectif Mathias yn y gyfres Y Gwyll ar S4C (ac Hinterland ar y BBC), sydd hefyd wedi’i leoli yn ardal Aberystwyth, wedi canmol Ar Lwybr Dial gan ei disgrifio fel “nofel sy’n werth colli cwsg drosti.”

“Mae dylanwad fy magwraeth yn Aberystwyth yn gryf yn fy nofelau i – rydw i’n credu y gall y lleoliad fod fel cymeriad ychwanegol mewn storïau, a mae canolbarth Cymru yn cynnig cymaint o ran tirlun, hanes a diwylliant. Rwy hefyd yn rhedwr brwd, a mi fydda i’n treulio’r amser hynny yn datrys elfennau o’r stori yn fy meddwl – rydw i’n siŵr y byddai fy llyfrau i’n wahanol iawn petawn i wedi treulio f’amser i gyd yn eistedd ar bwys desg,” meddai Alun Davies.

Yn Ar Lwybr Dial mae Taliesin yn cael ei bartneru gyda Siwan Mathews, ditectif profiadol sydd newydd ddychwelyd i’w gwaith ar ôl sawl blwyddyn yn magu teulu ifanc. Eu hachos cyntaf ydy ymchwiliad i sawl lladrad ym mhentref Y Borth. Mae’r ddau dditectif yn dod o hyd i gyrff hen gwpwl, wedi’u lladd yn eu cartref. Yn benderfynol o ddal yr un sy’n gyfrifol cyn i fwy farw, maen nhw’n mynd ati i chwilio i gefndir tywyll y pâr priod, cyn i dro yn y stori weld y llofrudd yn cysylltu gyda Taliesin a’r ditectif yn gorfod chwilio am atebion ynddo’i enaid ei hun. Wedi ei hadrodd o safbwynt Taliesin a Siwan, mae’r ddirgelwch gyffrous yn mynd â’r darllenwr ar daith lawn amheuon, cyfrinachau a llofruddiaethau erchyll.

“Rwy wedi bod yn gweithio ar stori’r ail nofel ers cyn i mi orffen Ar Drywydd Llofrudd ’nôl yn 2018. Mae’n wefr wahanol i ddatgelu stori newydd tra’n datblygu mwy ar yr un cymeriadau. Rwyf wedi bod yn ffodus i gael adborth da wrth nifer o ddarllenwyr y nofel gyntaf, a mi oedd yn bendant yn deimlad rhyfedd i ysgrifennu’r nofel hon gan wybod bod sawl un yn disgwyl amdani,” meddai Alun.