Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Aberth aelod teulu yn y Rhyfel Mawr yn egin nofel newydd

Roedd 2018 yn nodi canrif ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe nodwyd yr achlysur drwy gofio am y rhai aberthodd eu bywydau yn ystod y brwydro. I’r awdur poblogaidd arobryn Geraint V. Jones dyma oedd egin syniad am stori, a ffrwyth ei lafur ydi’i nofel newydd Elena, a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Y Lolfa.

Meddai’r awdur: “Chefais i erioed gyfle i adnabod tad fy mam am iddo gael ei ladd ar Gefn Pilkem, ddiwedd Gorffennaf 1917. O fewn deufis roedd fy nain yn colli brawd hefyd, yn yr un ardal. Fe gafodd fy nhaid arall, tad fy nhad, ddod adre’n fyw, ond nid yn groeniach o bell ffordd, am iddo gael ei anafu ar ddiwrnod cyntaf Brwydr y Somme. Rwy’n cofio mai tawedog iawn oedd o pan fyddwn i’n ceisio’i holi am ei amser yn Ffrainc.”

Wrth drafod syniad ei nofel ac o le daeth y stori, dywed Geraint V. Jones:

“Anodd egluro’n foddhaol pryd nac ymhle yn union y mae unrhyw nofel yn cychwyn gen i. Dwi’n rhyw amau mai’r ysgogiad i Elena oedd y profiad o ymweld eto, yn 2017, â bedd fy nhaid yn mynwent fechan Dragoon Camp, nepell o Ypres, ac yna teithio’r hanner milltir byr o fan ‘no at fedd Hedd Wyn ym mynwent Artillery Wood. Wrth sefyll uwchben bedd y bardd, a dwyn i gof ddwy o’i gariadon yma ym Mlaenau Ffestiniog, cam bychain wedyn oedd sylweddoli bod pob bedd yn cuddio’i stori neu’i gyfrinach ei hun.”

Mae Elena yn olrhain hanes Elin, cyfeilyddes Côr y Garn, sy’n dechrau dod o’i chragen wedi blynyddoedd o ofalu am ei mam a’i nain, ac yn cychwyn ar berthynas gyda Dewi Rhys. Wrth i’w doniau cerddorol hi ddod fwyfwy i’r amlwg, mae’r ddau yn turio’n ddyfnach i gefndir ei theulu yn ardal Tregarnedd. Mae hen gysylltiadau cudd ei thylwyth â llofruddiaeth arswydus fu ar gyrion y dref adeg y Rhyfel Mawr yn mynnu dod i olau dydd.

“Mewn rhyw ffordd neu’i gilydd mae pob un ohonom yn gaeth i’w orffennol a dydi Elin Puw, prif gymeriad y nofel yma, ddim yn eithriad yn hynny o beth.”