Y Lolfa logo
Hafan | Home
english
gwasanaethau argraffu

diogelwch a phrifatrwydd

Crëwyd y wefan gan
Technoleg Taliesin Cyf.
Dewislen gweinyddu

newyddion o'r Lolfa Dinas, gwasgnod newydd Y Lolfa

  EWCH     chwilio manwl

Dewi Prysor yn esbobinio pam iddo ysgrifennu Brithyll



Mae mwy o Gymry Cymraeg yn prynu a darllen nofelau na mae pobl yn amgyffred. Y broblem ydi mai nofelau Saesneg ydyn nhw.

Mae gwir angen llenyddiaeth cyfoes Cymraeg sydd yn berthnasol i fywydau ac arferion Cymry Cymraeg heddiw. Mae rhychwant darpariaeth diwylliant poblogaidd cynhenid Gymreig, yn gyffredinol, yn rhy gyfyng ei apel. Yn enwedig felly i bobl dan 45 oed. Mae llenyddiaeth yn un maes penodol lle mae galw am chwalu ffiniau a thorri'n rhydd o'r arfer diogel o sgwennu ar gyfer lleiafrif diwylliedig sy'n siwr o werthfawrogi a chefnogi unrhyw lenyddiaeth sydd mewn Cymraeg safonol a/neu sydd â thinc o barchusrwydd cartrefol, eisteddfodol amdano.

Rhaid cynnig mwy na hynny. Rhaid i iaith fod yn gyfoes i fod yn berthnasol, ac yn berthnasol i fod yn gyfoes. Heb allu uniaethu â'u diwylliant poblogaidd cynhenid, all Cymry Cymraeg cyfoes ddim rhoi gwerth pellach ar y Gymraeg na'i swyddogaeth fel cyfrwng cyfathrebu. Nid oes diben iddi ond i gynnal sgwrs. Nid yw'n cynnal unrhyw beth sydd o werth na pherthnasedd. Try'r werin at y môr o ddiwylliant poblogaidd cyfoes Eingl-Americanaidd yr ydym eisoes yn rannu efo cenedl y wlad sy'n ein dominyddu, a'n cymathu, yn ddiwylliannol. Mae Saesneg, wedi'r cwbl, yn cynnal y diwylliant poblogaidd cyfoes hwnnw. Mae hi'n iaith sy'n fwy na chyfrwng cyfathrebu. Mae gwerth a pherthnasedd iddi. Dyma wraidd yr hen goel fod rhaid siarad Saesneg i ddod ymlaen yn y byd. A dim ond cenhedloedd sydd wedi eu dominyddu gan Loegr sy'n ei gredu. Wedi eu hamddifadu o'u diwylliant cynhenid gyhyd ni allant werthfawrogi gwir werth eu iaith eu hunain.

Pan mae iaith yn gyfrwng cyfathrebu yn unig, be sydd i atal pobl rhag defnyddio iaith arall y maent yn rhugl ynddi, i gyfathrebu? Yn enwedig gan fod yr iaith arall honno mor dorfol boblogaidd, mor hegemonaidd ei dominyddiaeth cymdeithasol, mor amlwg ei pherthnasedd a'i gwerth diwylliannol a'i swyddogaeth cymdeithasol ac, felly, yn rhy hawdd i fynd gam ymhellach a dechrau uniaethu â hi, yn hytrach na'n mamiaith. Yn absenoldeb diwylliant cyfoes Cymraeg mae gwerthuso a chymharu perthnasedd Cymraeg a Saesneg i'n bywydau yn gywir, yn amhosib.

Mae Saesneg yn rhy gyfarwydd i Gymry Cymraeg allu ymwrthod â hi fel cyfrwng, a mae'r diwylliant poblogaidd mae Saesneg yn ei gynnal yn rhy gryf a thorfol i ni anwybyddu ei pherthnasedd cynyddol i'n bywydau. Mae'n amhosib cau'r diwylliant Eingl-Americanaidd allan o'n bodolaeth, a mae natur ein sefyllfa cenedlaethol a diwylliannol truenus yn golygu y bydd hyn, os na ddarperir dewis amgen yn ein iaith cynhenid, yn arwain yn naturiol a diamheuol at ddiddymiad ein diwylliant cynhenid, a'n iaith – yr hyn sydd yn cynnal ein hunaniaeth a'n cenedligrwydd.

Dylai pob gwladgarwr gofleidio'r ymdrech i boblogeiddio diwylliant poblogaidd cyfoes perthnasol drwy gyfrwng y Gymraeg. Dylem ddarparu, yn Gymraeg, pob elfen o ddiwylliant cyfoes sydd eisoes yn cael ei gynnig drwy gyfrwng y Saesneg. Rhaid i ni ddarparu ystod yr un mor eang ac amrywiol. Rhaid cyflwyno llenyddiaeth cyfoes, poblogaidd i'r werin Gymraeg ei hiaith. Llenyddiaeth sydd yn ymdrin â bywyd, meddylfryd a hunaniaeth heddiw, yn ei 'ddweud o' fel y mae, mewn iaith, ieithwedd ac arddull poblogaidd, sy'n gyfarwydd a pherthnasol i'r gymuned Gymraeg gyfoes.

Dim ond wedyn y daw trwch y Cymry Cymraeg i arfer â phrynu a darllen llenyddiaeth Cymraeg – a phasio'r arfer ymlaen i'r genhedlaeth nesaf. Dim ond ar ôl ymgyfarwyddo â diwylliant cynhenid Cymraeg, cyfoes a pherthnasol y gellir uniaethu â chyfrwng y ddarpariaeth. Dim ond wedyn y daw pobl yn ymwybodol o wir werth y Gymraeg. Ei bod, fel iaith, yn fwy na chyfrwng cyfathrebu yn unig, ei bod yn cynnal rhywbeth mwy, ei bod yn berthnasol i'n bywydau, ein diwylliant ac i'n hunaniaeth, yn dreftadaeth gwerth ei gynal a'i goleddu, a'i bod yn iaith sydd yn werth gwneud safiad cydwybodol a chymdeithasol drosti. A dim ond wedyn ddaw yr iaith Gymraeg yn gyfrwng diwylliannol torfol all ddal ei dir ochr yn ochr â diwylliant poblogaidd Eingl-Americanaidd a 'Phrydeinig'. A dim ond wedyn y gall ddal ei thir yn wyneb coloneiddio Seisnig yn yr ardaloedd Cymraeg ei iaith. Unwaith bydd diwylliant cyfoes, cynhenid Cymraeg yn wir bobologaidd, bydd yr iaith Gymraeg mewn sefyllfa rhy gryf i fethu goroesi.

Rhaid pwysleisio nad dynwared elfennau o'r ddarpariaeth diwylliant cyfoes Saesneg yw'r neges. Ond yn hytrach roi llwyfan i'r un math o ddarpariaeth eang, sy'n cynnig mynegiant i hunaniaeth, meddylfryd, buchedd a ieithwedd perthnasol i Gymru'r oes fodern, ei chymdeithas, ei hiwmor, ei dyheadau, diddordebau a phroblemau. A hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n naturiol y bydd hynny'n wahanol i'r 'fersiynau' Saesneg gan fod natur cymunedau Cymraeg a Chymreig yn wahanol i rai Saesneg. Yn naturiol, felly, bydd llenyddiaeth cyfoes a phoblogaidd Cymraeg yn wreiddiol a chynhenid Gymreig er ei fod yn dilyn engraifft diwylliant poblogaidd Eingl-Americanaidd neu 'Brydeinig' drwy ddarparu ystod yr un mor eang ac amrywiol.

Does ond rhaid cofio am lwyddiant C'mon Midffild ar y teledu. Cymerodd elfen ac apêl torfol elfen o ddiwylliant poblogaidd 'Prydeinig' (pel-droed), adnabod ac amlinellu yr elfen Gymraeg, werinol – perthnasol – ohonno, a'i gyflwyno mewn ffordd bobologaidd, cwbl naturiol oedd yn gynhenid Gymraeg ei hunaniaeth a'i gymeriad. A gwnaeth fyd o les i berthnasedd y Gymraeg i ddiwylliant poblogaidd – a thrwy hynny i hunaniaeth Gymreig a Chymraeg.

Dyma'r math o beth fydd llenyddiaeth poblogaidd Gymraeg yn ei wneud. Er ymdrin â materion all fod o faes tu allan i'r Gymru draddodiadol – o fyd Cymraeg sydd yn esblygu a rhannu diwylliant â diwylliannau cyfoes eraill – bydd yna gymeriad Cymraeg iddo. Bydd yna stamp gwerinol Cymraeg arno. Bydd 'na hunaniaeth Gymraeg iddo. Bydd hyn yn gwneud y Gymraeg yn hyd yn oed fwy perthnasol i Gymry Cymraeg na all Saesneg, er ei chryfder diwylliannol torfol, fyth â gobeithio bod.

Mae 'na nofelau Cymraeg sydd wedi adnabod ac anelu at gynulleidfa ehangach na'r traddodiadol. Mae gweithiau Twm Miall, Eirug Wyn, a'r Dyn Dwad, er engraifft, yn gyfoes a phoblogaidd eu harddull, eu gwrthrych a'u naws. Ond prin iawn ydi'r engreifftiau hyn. Yn enwedig y rhai, fel gweithiau Twm Miall (yr awdur a wir agorodd y ffordd i awduron mwy cyfoes eu harddull a'u gwrthrych), sydd yn wir wrth-sefydliadol ac yn tynnu'r blincers yn gyfangwbl, yn torri'n rhydd o rwymau traddodiadol, yn herio confensiwn, yn tanseilio tabws ac yn chwalu ffiniau ffug-barchusrwydd, gan adlewyrchu gwir natur bywyd, arferion a hiwmor cymdeithas gyfoes Gymraeg.