Murlun Newydd
Roedd hen furlun Ruth Jên yn garreg filltir gyfarwydd ar y daith o dde i ogledd Cymru a bellach mae'r artist o Dalybont newydd gwblhau murlun newydd ar yr un wal. Mae'r murlun yma yn hollol wahanol i'r hen un gyda rhai o eiconau enwog Cymru wedi cael eu peintio mewn arddull graffiti stensil arno. Yn cadw cwmni i Eirwyn Pontshan awdur llyfr cyntaf Y Lolfa mae Gwynfor Evans, Rhys Mwyn, Meic Stevens, Nan Humphries a Rwdlan. Yn ogystal â bod yn ffigyrau amlwg yng Nghymru mae ganddynt i gyd gysylltiadau â gwasg Y Lolfa.
Yr Emporiwm

Yn yr Emporiwm y sefydlwyd Y Lolfa yn 1967, ond ar ôl cyfnod fel warws mae'r adeilad newydd ei throsi yn bedair swyddfa fodern gyda'r cyfleusterau diweddaraf. Bydd Ecology Matters, cwmni o Dalybont, yn symud i un o'r swyddfeydd gyda'r Lolfa yn cadw un swyddfa. Mae croeso i gwmnïau sydd â diddordeb i symud i'r swyddfeydd eraill gysylltu â'r Lolfa am ragor o wybodaeth.
Gwefan
Manteisiodd Y Lolfa ar y cyfle i lansio gwefan newydd a baratowyd gan gwmni Technoleg Taliesin. Er mwyn hyrwyddo'r wefan newydd mae cludiant am ddim a gostyngiad o 10% ar bob llyfr a archebir cyn diwedd mis Mai.
Sioe Sleidiau o'r Murlun
Lluniau o'r Lansiad










