Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Erthyglau

Blwyddyn gron o lenydda gan Sioned Erin yn cael ei ddathlu mewn llyfr
Dwy ffrind yn cydweithio ar gyfres o straeon amser gwely i blant

Dwy ffrind yn cydweithio ar gyfres o straeon amser gwely i blant

Dwy ffrind, Rhiannon Lloyd Williams a Sioned Medi Evans sydd wedi creu’r gyfrol wreiddiol, liwgar, Cant a Mil o Freuddwydion a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Y Lolfa. Dechreuodd y cyfan fel prosiect ar y we ym mis Medi 2019 – Rhiannon yn ysgrifennu a Sioned yn darlunio, wedi i’r ddwy sylwi bod prinder straeon cyn cysgu i blant.  darllen mwy

Epig ffantasïol newydd am ferch yn ceisio achub ei brawd

Epig ffantasïol newydd am ferch yn ceisio achub ei brawd

Gyda chwedlau’r Mabinogi a The Hobbit ymysg hoff straeon yr awdur, yr wythnos hon cyhoeddir epig ffantasïol newydd, Trigo gan awdur newydd. Yn fab i’r awdur Mari Emlyn a’r actor a digrifwr Emyr ‘Himyrs’ Roberts, mae Aled Emyr hefyd yn aelod o’r band Achlysurol ac yn chwarae i fandiau adnabyddus eraill yng Nghymru.  darllen mwy

Nofel gyntaf Ffion Emlyn yn chwarae gyda'r ffin denau rhwng y digrif a'r difrif
O Bontcanna i Bentawe: Dwy Gymru Robat Gruffudd

O Bontcanna i Bentawe: Dwy Gymru Robat Gruffudd

“Gallech ddadlau mai Caerdydd yw prif gymeriad y nofel hon,” medd Robat Gruffudd am Gobaith Mawr y Ganrif, sydd newydd ei chyhoeddi gan Y Lolfa. Mae ’na olygfeydd wedi eu lleoli ym Mhontcanna, Rhiwbeina, clwb y Cardiff & City, bwyty Eidalaidd yn y Bae, a Chanolfan y Mileniwm, ac mae’r prif gymeriadau’n cynnwys datblygwr tai, cyfreithiwr llwyddiannus, a Menna Beynon, pennaeth Corff yr Iaith Gymraeg. Ond caiff eu bywyd esmwyth ei styrbio pan gaiff Menna ei bygwth gan gyn gariad iddi, Trystan, o ddyddiau coleg Aberystwyth.  darllen mwy

Addasu nofel boblogaidd Mared Lewis i ddysgwyr

Addasu nofel boblogaidd Mared Lewis i ddysgwyr

Mae’r nofel boblogaidd i ddysgwyr Lefel Uwch, Fi, a Mr Huws, yn cael ei hail-gyhoeddi'r wythnos hon. Mae’r fersiwn newydd wedi’i addasu a’i safoni i fod yn rhan o gyfres Amdani, cyfres arbennig ar gyfer dysgwyr ar bob lefel.  darllen mwy

Creu cyfres a chymeriad newydd i hybu iechyd meddwl plant Cymru

Creu cyfres a chymeriad newydd i hybu iechyd meddwl plant Cymru

Nod cyfres newydd a gyhoeddir gan Y Lolfa yr wythnos hon yw gwella iechyd meddwl plant Cymru, yn ogystal â’u sgiliau llythrennedd. Cyfres o bum llyfr yw Twm y Llew, gyda phob un yn canolbwyntio ar gamau gwahanol o’r model Pum Ffordd at Les y Sefydliad Economeg Newydd (NEF), sef Cysylltu, Dal ati i ddysgu, Bod yn fywiog, Bod yn sylwgar a Rhoi.  darllen mwy

Hiwmor y fferm yn ysbrydoli awdur adnabyddus i ysgrifennu i blant

Hiwmor y fferm yn ysbrydoli awdur adnabyddus i ysgrifennu i blant

Am y tro cyntaf, mae’r awdur o fri, Gareth Evans-Jones, wedi ysgrifennu llyfr i blant. Mae Llanddafad yn gyfrol hardd, lawn hiwmor wedi’i selio ym myd y defaid. Ceir 12 pennod – pennod ar bob mis o’r flwyddyn sy’n canolbwyntio ar ddigwyddiadau perthnasol i blant heddiw– Pen-blwydd, Ffŵl Ebrill, Mabolgampau, Eisteddfod, Calan Gaeaf, Tân Gwyllt a’r Nadolig. Yn ogystal, mae cyfeiriadau at ddigwyddiadau pwysig ym myd y defaid megis diwrnod cneifio a’r wyna.  darllen mwy

Angerdd a herfeiddiad Streic y Glowyr yn cael ei rannu mewn llyfr ffotograffiaeth newydd i nodi 40 mlynedd
Hanes Llanrwst adeg yr Ail Ryfel Byd yn ysbrydoli nofel newydd
Y Band of Brothers Cymraeg: Hanes catrawd Cymreig Rhyfel Gartref America

Y Band of Brothers Cymraeg: Hanes catrawd Cymreig Rhyfel Gartref America

Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol ryfeddol sy’n adrodd hanes milwyr o gefndir Cymreig yn ystod Rhyfel Cartref America. Mae Dros Gyfiawnder a Rhyddid: Y Cambrian Guards, Caethwasiaeth a Rhyfel Cartref America gan Jerry Hunter yn gyfrol ddarllenadwy sy’n adrodd hanes rhai o filwyr cyffredin y 22ain Gatrawd o Droedfilwyr Wisconsin. Mae’r gyfrol yn rhoi’r un driniaeth i un o gwmnïau’r gatrawd – Co. F, a elwid hefyd yn y Cambrian Guards – ag y gwnaeth yr hanesydd Stephen E. Ambrose yn ei lyfr am Band of Brothers am gwmni o filwyr Americanaiadd ystod yr Ail Ryfel Byd.  darllen mwy

Swydd Newydd Gyffrous!
Nofel newydd Llwyd Owen yn

Nofel newydd Llwyd Owen yn "gampwaith"

Disgrifir y nofel olaf yn nhrioleg Llwyd Owen fel “campwaith” gan Manon Steffan Ros. Dywedodd yr awdur “darllenais drwy fy mysedd. O’n i methu rhoi hi lawr”. Mae Helfa (Y Lolfa), yn nofel ddirgelwch garlamus sy’n dod â stori’r Ditectif Sally Morris i ben mewn ffordd ddramatig iawn.  darllen mwy

Yr Osian Roberts arall...

Yr Osian Roberts arall...

Nid yr Osian Roberts fu’n hyfforddi tîm pêl-droed Cymru yw’r unig un talentog i ddod o Ynys Môn. Dyna hefyd enw artist ifanc addawol o Lannerch-y-medd sydd wedi arlunio un o lyfrau dysgu Cymraeg mwyaf poblogaidd Y Lolfa, sef Welcome to Welsh. Ac mae hefyd yn ddilynwr brwd i dîm pêl-droed Cymru!  darllen mwy

Cyhoeddi argraffiad newydd sbon o gwrs poblogaidd i ddysgwyr Cymraeg
1-20 o 497 1 2 3 4 5 . . . 25
Cyntaf < > Olaf