Yn "Cofnodion" mae Meic Stephens yn edrych yn ôl ar ei fywyd fel llenor, golygydd, swyddog Cyngor y Celfyddydau, athro prifysgol a dyn teulu. Mae cyfraniad nodedig Meic i ddwy lenyddiaeth Cymru wedi'i gydnabod yn eang, ac yntau wedi ysgrifennu, cyfieithu neu olygu tua 170 o gyfrolau. Gweithiodd yn ddiflino dros ddegawdau lawer, ac er ei fod bellach wedi cyrraedd oed yr addewid mae ei ddiwydrwydd yn parhau. Trodd yn ddiweddar at farddoni yn Wenhwyseg, a daeth o fewn trwch blewyn i gipio Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ar sawl achlysur.
Magwyd Meic ar aelwyd ddi-Gymraeg yn Nhrefforest a chawn ganddo hanes ei ddyddiau cynnar, ynghyd â'i ymdrechion fel oedolyn i ddatrys dirgelwch gwreiddiau teulu ei dad yn Sir Faesyfed. Ei dad-cu o Sais fu'n bennaf cyfrifol am gynnau'r tân yn ei fol dros ei wlad, ac roedd Meic yno ar Bont Trefechan ym 1963 ym mhrotest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Bu'n weithgar yn y frwydr genedlaethol dros y blynyddoedd, yn enwedig yn ystod ei gyfnod yn byw ymhlith nifer o Bleidwyr amlwg yng Ngarth Newydd ym Merthyr.
Treuliodd gyfnod yn Llydaw, dysgodd Ffrangeg yng Nglynebwy a bu'n Athro ym Mhrifysgol Brigham Young yn Utah cyn cael cadair ym Mhrifysgol Morgannwg.
Ac yntau hefyd yn adnabyddus fel awdur erthyglau coffa i lu o Gymry amlwg yn yr Independent, dyma hunangofiant ffraeth yn llawn sylwebaeth dreiddgar a digyfaddawd y dyn ei hun.