"Dyw hi ddim yn fenyw a fydd hi byth, nid i fi ta beth."
Carisma. Dyna sydd gan bobl sy'n newid y byd. Ac roedd llond trol o garisma gan Ceri. Ond a fyddai'n ddigon i newid barn pobl amdani wrth iddi ddychwelyd i gartref ei phlentyndod yn berson gwahanol iawn i'r un adawodd? Mae ei hymgais i ymuno â Merched y Wawr yn bygwth rhwygo'r gangen leol yn ddwy, a hynny ym mlwyddyn dathlu'r mudiad yn hanner cant oed. Yn ddi-os mae ei phresenoldeb yn newid pethau i bawb.
Nofel boblogaidd gyfoes sy'n mynd i'r afael â sut mae Ceri'n ymdopi â'i newid byd, a sut mae ei byd yn ymdopi â Ceri.