Os hoffech wybod mwy am y cyfraniad enfawr a wnaeth y genedl fechan hon i'r byd, darllenwch y llyfr hwn.
A wyddoch chi mai Cymro oedd tu ôl i ddatblygu theori esblygiad?
- bod Cymraes o leiaf yr un mor gyfrifol am ddatblygu'r maes nyrsio â Florence Nightingale?
- bod y wlad hon ar y blaen o ran cyfraith a deddfau yn yr oesoedd canol?
- iddi gynhyrchu'r unig deulu o linach brenhinol effeithiol a gafodd ynysoedd Prydain, a'r prif weinidog mwyaf medrus?
Mae'r gyfrol hon yn llawn ffeithiau dadlennol a difyr am Gymru a'i hanes rhyfeddol a chyfoethog.