Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Newyddion

Nofel sy’n dwyn ysbrydoliaeth gan ddarlun enwog Salem, lle mae’r diafol yn y siôl yn taro’i gysgod yn dragwyddol...

Nofel sy’n dwyn ysbrydoliaeth gan ddarlun enwog Salem, lle mae’r diafol yn y siôl yn taro’i gysgod yn dragwyddol...

Mae’r awdur poblogaidd Haf Llewelyn ar fin cyhoeddi ei nofel ddiweddaraf, sy’n dwyn y teitl Salem. Nofel yn pendilio rhwng y flwyddyn 1908 a 2016 yw hon, a gwelwn iddi ddechrau yn 1908 drwy olrhain hanes merch o’r enw Agnes neu Neta, ynghyd â’i theulu. Mae Neta yn ei chael ei hun yn feichiog, ac o’r herwydd yn wynebu llid y gymdeithas gapelyddol y mae’n trigo ynddi. Trist yw ei thynged wrth inni ddod i wybod maes o law ei bod wedi mynd i mewn i’r môr yn Llandudno.  darllen mwy

‘Llinella sirol. County lines. Hynna sgynnoch chi ia?’ - Nofel sy’n mynd at asgwrn pydredig yr is-fyd cyffuriau
“Mae’n rhaid i dref fach fel hon gael ff*c-yps, sti. Am be fasa pawb yn siarad fel arall?”

“Mae’n rhaid i dref fach fel hon gael ff*c-yps, sti. Am be fasa pawb yn siarad fel arall?”

Mae Sêr y Nos yn Gwenu yn dilyn cyfnod ym mywydau Leia a Sam. Pan eisteddodd Sam drws nesaf i Leia ym Mlwyddyn Dau, digwyddodd rhywbeth a newidiodd popeth. Tyfodd edau anweledig rhyngddynt, edau sydd wedi eu clymu a’u tynnu at ei gilydd fyth ers hynny. Ond bymtheg mlynedd yn ddiweddarach mae bywyd yn fwy cymhleth, gyda Leia yn wynebu cyfnod o wasanaethu cymdeithasol, a Sam yn dygymod â cholled enfawr.  darllen mwy

Gêm Fwrdd sy’n ail-fyw Rhyfel Glyndŵr Dros Annibyniaeth
Sharon Morgan - Actores a Mam: Hunangofiant sy’n datgelu’r heriau sy’n gwynebu merched ym myd actio.
O’r Da i’r Direidus – Hunangofiant Aled Hall

O’r Da i’r Direidus – Hunangofiant Aled Hall

“Dwi wedi bod yn ffodus i ganu opera ymhob cwr o’r byd, ond sdim ots ble ydw i na pha gymeriad dwi’n chwarae, pan dwi’n darllen y sgript dwi’n mynd syth ’nôl at bobol Dolgran a Phencader – nhw sydd wrth wraidd pob un cymeriad. Ma’r bois lleol wedi dod ’da fi ac wedi ymddangos ar lwyfannau opera enwog dros y byd, a hynny heb adel gytre!”  darllen mwy

Cyfrol yn darlunio hen Gymru mewn lliw am y tro cyntaf

Cyfrol yn darlunio hen Gymru mewn lliw am y tro cyntaf

Mae gwasg Y Lolfa wedi atgynhyrchu detholiad o luniau du a gwyn i fod yn rai lliw llawn, a hynny mewn llyfr am y tro cyntaf yng Nghymru. Llwyddwyd i ail-greu’r gorffennol fel ag yr oedd, neu mor agos â phosib at hynny, gyda lluniau o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r llyfr o’r enw Cymru Ddoe Mewn Lliw a Llun yn ddathliad unigryw o fywyd gwledig Cymru yn bennaf, o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at ganol yr ugeinfed ganrif, gyda’r lluniau wedi eu dethol gan Gwyn Jenkins a’u lliwio gan y dylunydd Richard Huw Pritchard.  darllen mwy

Bywyd a Bwyd Colleen Ramsey: Gwraig Colleen Ramsey yn cyhoeddi cyfrol o ryseitiau yn Gymraeg

Bywyd a Bwyd Colleen Ramsey: Gwraig Colleen Ramsey yn cyhoeddi cyfrol o ryseitiau yn Gymraeg

Mae cyfrol goginio gyntaf Colleen Ramsey ar fin gyrraedd y siopau ac mae’n llawn amrywiaeth blasus o ryseitiau i blesio pawb. Mae’r llyfr dwyieithog trawiadol yn cyd-fynd â chyfres deledu gyntaf Colleen, Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd, fydd yn dechrau ar S4C ar Ragfyr yr 28ain. Mae Colleen Ramsey yn gogydd sy’n gyfarwydd i’w nifer fawr o ddilynwyr ar Instagram. Mae’n mwynhau creu prydau gwahanol a rhannu lluniau gyda’r gymuned o bobol sy’n cael blas ar fwyd. ‘Dwi’n meddwl am fwyd trwy’r amser a sut alla i fod yn greadigol,’ meddai Colleen Ramsey. ‘Dyna sut dwi’n dangos gofal a chariad i’r bobol dwi’n eu caru fwyaf!’  darllen mwy

Y Wal Goch – Cymru, Qatar a Chwpan y Byd

Y Wal Goch – Cymru, Qatar a Chwpan y Byd

Wrth i ni fyw drwy oes aur i bêl-droed Cymru, mae’r gyfrol newydd hon yn rhoi sylw i un o elfennau amlycaf y llwyddiant diweddar, sef y cefnogwyr. Mewn casgliad amrywiol o ysgrifau a cherddi cawn glywed gan 18 cyfrannwr, o enwau adnabyddus fel Gwennan Harries, Dafydd Iwan a Bryn Law, i rai o’r cefnogwyr pybyr sydd wedi bod yn dyst i’r cyfan, a rhai o leisiau newydd y Wal Goch enwog. Mae’r gyfrol, Y Wal Goch: Ar Ben y Byd gan Ffion Eluned Owen (gol.), hefyd yn cynnwys dyfyniadau a lluniau gan aelodau’r Wal o bob cwr o Gymru.  darllen mwy

Teithiau Bywyd Dau Gapten – y gwahaniaethau, y gorgyffwrdd, y llwybrau’n croesi...

Teithiau Bywyd Dau Gapten – y gwahaniaethau, y gorgyffwrdd, y llwybrau’n croesi...

Stori hanesyddol wir yw James a Nikolai: Teithiau Bywyd Dau Gapten gan Gareth Parry Jones (Y Lolfa). Daeth y symbyliad i ysgrifennu’r stori wedi i Gareth Parry Jones ddarganfod nifer fawr o greiriau, lluniau, dogfennau a llythyrau yn atig hen gartref ei ddiweddar fam, rhai heb weld golau dydd ers blynyddoedd. Gyda’r deunydd dechreuodd Gareth ddysgu mwy am fywyd ei daid, James Parry.  darllen mwy

Hapus wrth ei hun mewn breuddwyd roc a rôl? Cleif Harpwood sy’n diosg yr haenau i gyd mewn hunangofiant ar drothwy oed yr addewid
Trioleg o nofelau noir yn cyrraedd y diwedd

Trioleg o nofelau noir yn cyrraedd y diwedd

Wedi pum mlynedd o ysgrifennu mae’r drioleg o nofelau tywyll sy’n cynnwys ‘Y Düwch’ ac ‘Y Dial’ gan yr awdur Jon Gower wedi cyrraedd ‘Y Diwedd.’ Y tro hwn mae’r ditectifs Tom Tom ac Emma Freeman yn ôl, nid yn unig fel dau heddwas ond fel gŵr a gwraig. Ac mae ganddynt waith i’w wneud wrth i lofrudd cudd sgubo’r byw i fyd y meirw. Ond pan mae carcharor dialgar yn camu’n rhydd ar ôl blynyddoedd yn ei gell, daw â pherygl enbyd i’w priodas.  darllen mwy

Mae Cadi ar drywydd antur arall - y tro hwn, dros donnau'r môr!
Beca ddewr, y bwlis a’r byd mawr – stori un ferch a’i chariad at nofio
Bywyd bob dydd a bwydo – llyfr sy’n hwyluso’r broses
At y perfedd, at y pydredd - gwirioneddau'r goeden deulu

At y perfedd, at y pydredd - gwirioneddau'r goeden deulu

Y mis hwn, cyhoeddir Powell (Y Lolfa) gan Manon Steffan Ros. Nofel yw hon am hogyn ifanc, Elis, sy’n olrhain hen achau ei gyn-deidiau drwy ymchwilio i’w goeden deulu. Fel un sydd wastad wedi arddel balchder o fod yn un o’r Powells, sylfaenwyr ei dref, ergyd yw’r hyn a ddaw i’r wyneb am hanes haenog a chymhleth ei deulu  darllen mwy

Llyfr a siart i ddathlu Cwpan y Byd cyntaf Cymru ers 64 o flynyddoedd

Llyfr a siart i ddathlu Cwpan y Byd cyntaf Cymru ers 64 o flynyddoedd

Yr wythnos hon, cyhoeddir llyfr i baratoi ar gyfer ymgyrch gyntaf Cymru mewn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ers 1958. Wedi ei ysgrifennu gan y sylwebydd a’r cyflwynydd Dylan Ebenezer, mae’r gyfrol yn baratoad delfrydol i gefnogwyr, o bob oedran, sydd am wybod mwy am y gwrthwynebwyr, y wlad a’r sêr i’w dilyn.  darllen mwy

Ydi pobl yn perthyn i ddarn o dir? Nofel gyfoes sy'n codi cwestiynau am Gymru, y Gymraeg a chenedlaetholdeb
Ailgyhoeddi Un Nos Ola Leuad ar fformat newydd

Ailgyhoeddi Un Nos Ola Leuad ar fformat newydd

Yr wythnos hon, cyhoeddir y llyfr y ceir ei ystyried fel y nofel Gymraeg orau erioed, Un Nos Ola Leuad, mewn fformat newydd wedi ei ailgysodi a’i gyhoeddi fel e-lyfr am y tro cyntaf erioed, gan wasg Y Lolfa. Mi fydd y llyfr hefyd yn cynnwys nifer bychan o gywiriadau y bwriadodd Caradog Prichard eu cael yn y fersiwn wreiddiol gan wasg Gee yn 1961, ond na gynhwyswyd tan nawr.  darllen mwy

Cyfrol yn dathu pen-blwydd yr Urdd yn 100 oed!

Cyfrol yn dathu pen-blwydd yr Urdd yn 100 oed!

nodi canmlwyddiant Urdd Gobaith Cymru, cyhoeddir Ein Urdd Ni gan Mari Emlyn (y Lolfa) – yr anrheg perffaith i’r hosan Nadolig. Yn y llyfr lloffion hwn, clywir gan rai o bobl fwyaf adnabyddus Cymru am y rhan y mae’r mudiad wedi ei chwarae yn eu bywydau. Ochr yn ochr â lluniau personol, cyflwynir pytiau o brofiadau amrywiol er mwyn cael cipolwg ysgafn a gwahanol i’r arfer o weithgaredd a gwerth yr Urdd.  darllen mwy

41-60 o 345 1 2 3 4 5 . . . 18
Cyntaf < > Olaf