Ffion Dafis
Mae Ffion Dafis yn enwog fel actores a chyflwynwraig ar radio a theledu. O Fangor yn wreiddiol, mae'n adnabyddus am chwarae rhan Llinos yn y gyfres deledu "Amdani" a Rhiannon yn "Byw Celwydd" ar S4C. Bu'n actio rhan yr Arglwyddes Macbeth yng nghynhyrchiad arloesol Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama Shakespeare yng Nghastell Caerffili yn 2017.