Mair Tomos Ifans
Cafodd Mair Tomos Ifans ei magu yn Abergynolwyn a Harlech. Mae wedi gweithio fel actores, cantores, sgriptwraig, darlithydd a thiwrtor. Roedd yn un o sefydlwyr Cwmni'r Fran Wen. Gall canu'r delyn, y piano, y gitar a theulu'r recorder. Mae wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Goffa Elfed Lewis am ganu baled yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009.