Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Dafydd Andrews

Dafydd Andrews

Mae Dafydd yn enedigol o Wrecsam. Graddiodd yn y Gymraeg o Gogledd Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor lle cwblhaodd radd M.A. hefyd yn yr Adran Gymraeg. Bu'n dysgu Cymraeg am nifer o flynyddoedd cyn dychwelyd yn fyfyriwr i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth i gwblhau gradd M.Add. ac yna i Goleg yr Iesu, Rhydychen lle treuliodd ddwy flynedd yn cwblhau gradd M.Litt. ar y nofel Gymraeg. Treuliodd ail gyfnod fel athro Cymraeg a Saesneg a chyfnod fel Pennaeth Uned Gyfieithu Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam cyn cychwyn ar ei liwt ei hun. Bellach mae'n gweithio fel cyfieithydd, ymgynghorydd iaith ac awdur. Un o hoffterau mwyaf Dafydd yw cerdded mynyddoedd Cymru a dod i adnabod gwahanol rannau o'r wlad yn well. Bu'n cerdded mynyddoedd ledled y byd gan gynnwys Colorado, Seland Newydd a Nepal yn ogystal â Groeg, Ffrainc, y Swistir, Iwerddon, yr Alban a Lloegr.

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Cant Cymru

- Dafydd Andrews
£5.95

Llais y Llosgwr

- Dafydd Andrews
£5.95

Y Twll yn y Wal

- Dafydd Andrews
£5.95

Dewch i Chwarae Karate a Jiwdo

- Dafydd Andrews
£2.00

The Welsh One Hundred

- Dafydd Andrews
£5.95 £2.00

Welsh Mountain Walks

- Dafydd Andrews
£3.95