Hafan | Home
Y Lolfa - Gwasg fywiocaf Cymru
Talybont  Aberystwyth  Ceredigion  Cymru/Wales  SY24 5HE
+44(0) 1970 832 304
ffacs 832 782   ylolfa@ylolfa.com
Chwilio am lyfr

chwilio manwl


Hen straeon

Clasuron y Stori Fer Mewn Dwy Gyfrol

Mae'r Lolfa newydd gyhoeddi dwy gyfrol o ugain o straeon byrion gan rai o brif awduron Cymru a'r cyfandir. Yn ogystal â chynnwys rhai o glasuron y stori fer Gymraeg gan awduron fel Kate Roberts, Mihangel Morgan ac Eigra Lewis Roberts mae 20 Stori Fer (Cyfrol 1 & Cyfrol 2) yn cynnwys cyfieithiadau i'r Gymraeg o waith rhai awduron mawr Ewrop fel Anton Chekhov a Guy de Maupassant. Ceir hefyd nifer o straeon gwreiddiol gan awduron ifanc fel Gwenno Mair Davies, Daniel Davies a Mared Llwyd.
Er bod y rhan fwyaf o'r straeon wedi cael eu cyhoeddi o'r blaen mae yna ambell i stori newydd sbon yn cynnwys Y Gell gan Caryl Lewis a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer y casgliad. Mae yna alw mawr wedi bod am gasgliad o glasuron y stori fer Gymraeg. Mae'n debyg y bydd y llyfrau yma yn addas i ddisgyblion ysgol sy'n astudio Cymraeg ond hefyd i bawb sydd am ddarllen rhai o straeon gorau'r iaith yn eu hamser hamdden. Maent yn gyfrolau y gellir pori ynddynt a throi atynt dro ar ol tro, ac mae'n siwr y byddant yn cael eu cadw ar bwys y bath, ar y cwpwrdd ymyl gwely ac yn y ty bach mewn sawl cartref yng Nghymru.
Pris 20 Stori Fer (Cyfrol 1 & Cyfrol 2) a olygwyd gan Emyr Llywelyn yw £6.95 yr un.

manylion y llyfr

(16/02/2009)

Only Men Aloud a Bryn Terfel: Y Cyntaf i Gefnogi Cân Gwyl Dewi

Mae Bryn Terfel ac arweinydd 'Only Men Aloud', Tim Rhys Evans wedi dod at ei gilydd i gefnogi lansio cyhoeddi maniwscript ar y we, cân arbennig dydd Gwyl Dewi, sydd wedi cael ei fabwysiadu fel cân swyddogol Gorymdaith Genedlaethol Gwyl Dewi (GGGD).
Dathlwyd cyhoeddi maniwscript y gân, 'Cenwch y Clychau i Dewi' ar y we trwy gyflwyno'r copiau cyntaf o'r gân i Bryn Terfel a Tim Rhys Evans ac mae ar gael i'w brynu yma y tro cyntaf erioed i gyhoeddiad Cymraeg gael ei werthu ar y we ar ffurf electronaidd.

Meddai Tim Rhys Evans: “Mae'n bleser ac anrhydedd mawr i ni gyd yn 'Only Men Aloud' i fod y cyntaf i dderbyn y gân newydd gyffrous yma i ddathlu Nawdd Sant ein cenedl. Pob lwc i 'Gorymdaith Genedlaethol Gwyl Dewi' am flynyddoedd maith o lwyddiant mewn cân ac ysbryd.”

Derbyniodd Bryn Terfel y copi cyntaf, sef yr un i Biano a Llais o'r gân a Tim Rhys Evans y fersiwn cyntaf o'r gân i Gôr Meibion oddi wrth Gwenno Dafydd, wnaeth ysgrifennu geiriau'r gan yn Gymraeg a Saesneg. Heulwen Thomas wnaeth gyfansoddi'r gerddoriaeth wreiddiol i biano a llais ac fe wnaethpwyd y trefniannau Cor Meibion, Cor Merched a Chor Cymysg gan Eilir Owen Griffiths.

Gwrandewch ar blant Ysgol Gymraeg Penygarth, Penarth, yn canu'r gân
Fersiwn Saesneg Fersiwn Cymraeg (streaming audio)

Stori lawn    manylion y llyfr

(13/02/2009)

Rhiannon Wyn yn dilyn ôl Traed ei Thad

Mae Rhiannon Wyn wedi cyflwyno ei nofel gyntaf Codi Bwganod i'w thad, y diweddar Eirug Wyn. Mae Rhiannon yn cydnabod sut mae ysgrifennu creadigol wedi bod yn rhan bwysig o'i bywyd erioed. Esboniodd sut i'w thad, oedd yn awdur toreithiog iawn, fod yn ddylanwad mawr arni.
“Ei brif ddylanwad arna i oedd drwy esiampl: ei ethos gwaith, ei ddisgyblaeth, a'i ymrwymiad pendant i unrhyw dasg. Mi fydda i'n meddwl amdano'n aml wrth ysgrifennu. Ei straeon (gwirion) o cyn mynd i gysgu oedd fy nghyflwyniad cynta i unrhyw fath o ysgrifennu creadigol!”
Cafodd ei magu mewn siop lyfrau a'i hannog i ysgrifennu pan oedd yn blentyn ac mae Rhiannon bellach yn ysgrifennu wrth ei gwaith bob dydd fel sgriptwraig ar Rownd a Rownd a Phobol y Cwm. Meddai Rhiannon eto:
“O ran crefft, mae sgriptio ac ysgrifennu nofel yn hollol wahanol. Gwaith tîm yn bennaf yw sgriptio ac roedd ysgrifennu nofel yn her newydd. Roedd yn brofiad y gwnes i fwynhau'n arw.”
Mae Codi Bwganod yn delio â themâu megis symud ty, bwlio, a rhieni'n dadlau. Mae hefyd yn llawn hiwmor ac yn cynnwys elfennau dychmygol ac arallfydol. Cyhoeddir y nofel yr wythnos hon, fel ail lyfr yng Nghyfres yr Onnen. Cyhoeddwyd Trwy'r Darlun gan Manon Steffan Ros yn barod a bydd chwe nofel arall y gyfres yn cael eu cyhoeddi gan Y Lolfa yn ystod y flwyddyn. Bydd Rhiannon Wyn yn trafod y nofel gyda rhai o awduron eraill y gyfres mewn sgwrs yn siop Palas Print, Caerfnarfon ar y 6ed o Fawrth.

manylion y llyfr

(03/02/2009)

Trebor ar Frig y Siartiau Unwaith Eto

Mae Trebor Edwards yn gyfarwydd iawn a chael recoriau ar frig y siartiau, ond y Nadolig yma ei lyfr oedd ar frig siart. Ei hunangofiant Un Dydd ar y Tro oedd gwerthwr gorau'r Cyngor Llyfrau ar gyfer cyfnod y Nadolig. Yn ail agos iddo oedd hunangofiant y dyfarnwr poblogaidd Nigel Owens, Hanner Amser. Bu'r Nadolig yn gyfnod llewyrchus tu hwnt i'r Lolfa gyda phump o'r saith uchaf yn Gymraeg ac yn Saesneg wedi eu cyhoeddi gennym. Mae'r rhestrau cyflawn ar wefan www.gwales.com.

Stori lawn    manylion y llyfr

(16/01/2009)

Nofel newydd am gariad gwaharddedig gan Sonia Edwards

Cyhoeddir Deryn Glân i Ganu, nofel newydd gyffrous gan yr awdures o Fôn Sonia Edwards, yr wythnos hon gan wasg Y Lolfa fel rhan o Gyfres y Dderwen i'r arddegau hwyr. Ond, fel y gyfrol arall sydd wedi'i chyhoeddi eisoes yn yr un gyfres (Annwyl Smotyn Bach Lleucu Roberts), mae'n siwr o apelio at oedolion hefyd. Bydd pedair cyfrol Cyfres y Dderwen yn ymddangos yn y flwyddyn newydd.
Cyfres o ymsonau sydd yn y gyfrol, a phob un o'r cymeriadau yn ymateb i'r un digwyddiadau. Mae'r themâu yn gyfoes ac mae'r stori'n arwain at ddiwedd dirdynnol sy'n effeithio ar bob un o'r cymeriadau. Mae yma flacmel, cyffuriau, rhyw, cariad, malais, dial, dau deulu'n cydblethu, perthnasau'n chwalu, a marwolaeth.
Yn ôl Sonia Edwards:
“Athro ifanc hoyw yw Griff ond nid ei rywioldeb yw canolbwynt y nofel hon. Ynddi gwelwn mai caru'r person anghywir sy'n torri calonnau ac yn dinistrio bywydau.”
Dywed Meinir Wyn Edwards, un o olygyddion Cyfres y Dderwen:
“Dyma gyfrol sy'n eich tynnu i mewn i fyd cymeriadau credadwy a digwyddiadau sy'n plethu drwy'i gilydd yn ddeheuig.”
Mae Sonia Edwards yn enedigol o Gemaes, Môn. Bellach, mae'n byw yn Llangefni, lle mae'n athrawes Gymraeg yn Ysgol Gyfun y dref. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 1996 (Gloÿnnod), y Fedal Ryddiaith yn 1999 (Rhwng Noson Wen a Phlygain) ac mae wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau o ryddiaith a chyfrol o farddoniaeth.

manylion y llyfr

(15/12/2008)

Hunangofiant Arloesol Nigel Owens

Daeth bron i bedwar cant o bobl i glwb rygbi Pontyberem i ddathlu cyhoeddi hunangofiant y dyfarnwr a'r diddanwr poblogaidd Nigel Owens. Ymhlith y gwesteion roedd rhai o sêr rygbi Cymru yn cynnwys Shane Williams, Gethin Jenkins a Jonathan Thomas yn ogystal â'i fentor fel dyfarnwr Derek Bevan.
Hanner Amser yw teitl y gyfrol sy'n bwrw golwg gwbl onest ar fywyd personol a chyhoeddus Nigel o'i ddyddiau fel bachgen yn Mynyddcerrig hyd at ei yrfa ddisglair fel un o ddyfarnwyr gorau'r byd.
Dyma'r hunangofiant cyntaf gan berson sy'n agored hoyw yn Gymraeg ac wrth drafod y gyfrol dywedodd Nigel,
“Ro'n i wedi penderfynu o'r dechre mod i'n mynd i fod yn onest yn y llyfr… yr holl fusnes o fod yn hoyw a cheisio cymryd bywyd yn hunan. Fel arall bydde pobl ddim yn meddwl fod hwn yn hunangofiant go iawn.”
Yn ogystal â'i fywyd personol ceir llwyth o storiâu doniol a dadlennol o'i gyfnod fel bachgen a'i fryd ar ffermio, fel gofalwr yn ysgol Maes yr Yrfa ac fel dyfarnwr yn troi ymhlith mawrion y byd rygbi.
Gwerthwyd dros dri chant o gopïau yn ystod y noson, ac eisoes mae'r Lolfa yn poeni y bydd angen ail-argraffu cyn y Nadolig yn dilyn yr ymateb rhyfeddol a gafwyd i'r gyfrol hyd yn hyn.
Llun: Nigel yn trio gwerthu copi o'i lyfr i Shane Williams yn ystod y noson.

manylion y llyfr

(05/12/2008)

Galw am Gefnogaeth i Lyfrau Plant Gwreiddiol

Mae'r Lolfa newydd ryddhau tair cyfrol o lyfrau llun a stori gwreiddiol i blant ar gyfer y Nadolig. Mae Alun yr Arth ar y Mor, Bili Boncyrs yn y Sw a Cwm Teg: Fuoch Chi 'Rioed yn Morio yn lyfrau gwreiddiol gan awduron ac artistiaid o Gymru.
Mewn cyfnod pan fo siopau yn llawn o addasiadau Cymraeg o lyfrau Saesneg galwodd Garmon Gruffudd o wasg Y Lolfa ar i brynwyr fynd ati i brynu llyfrau gwreiddiol Cymraeg.
“Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni mae'n bwysicach nag erioed fod siopwyr yn mynd ati i brynu cynnyrch Cymreig. Wrth brynu llyfr gwreiddiol Cymraeg rydych yn cefnogi awduron, arlunwyr, llyfrwerthwyr a gweisg o Gymru a bydd pob ceiniog yn cylchdroi yn yr economi Gymraeg. Does gen i ddim amheuaeth fod safon llyfrau gwreiddiol gystal os nad yn well nag unrhyw addasiad Cymraeg sy'n cael ei argraffu yn Tseina, ac erbyn hyn does dim gwahaniaeth yn y prisiau chwaith… £2.95 yn unig yw pris llyfrau Alun yr Arth a Bili Boncyrs ”
Bellach mae cyfres Alun yr Arth gan Morgan Tomos wedi gwerthu dros 20,000 o gopïau ac mae cyfres Bili Boncyrs sy'n cynnwys gwaith celf gan y dylunydd o Aberaeron Gary Evans yn dangos fod yna artistiaid Cymreig yn gallu cynhyrchu gwaith heriol a chyfoes o safon ryngwladol. Cyfres newydd hollol Gymreig arall, sydd wedi ei seilio ar hwiangerddi Cymreig, yw Cwm Teg, sy'n ffrwyth cydweithio rhwng Y Lolfa a chwmni Dynamo. Mae'r Lolfa hefyd wedi rhyddhau Calendr i hyrwyddo'r gyfres wreiddiol fwya poblogaidd i gyd sef cyfres Rwdlan gan Angharad Tomos.

manylion y llyfr

(04/12/2008)

Plu’ yn binacl i flwyddyn ryfeddol Caryl Lewis

Bu 2008 yn flwyddyn eithriadol i Caryl Lewis. Cyhoeddodd nofel fer ddechrau'r flwyddyn, llwyfanwyd drama ganddi yn yr hydref, mae dwy ffilm ganddi'n cael eu darlledu ar S4C, ac mae hi newydd gyhoeddi ei chyfrol gyntaf o storiau byrion o'r enw Plu gyda gwasg Y Lolfa.

Mae'r gyfrol Plu yn benllanw dwy flynedd o waith, ac meddai Caryl: “Mae wedi bod yn uchelgais gyda fi i sgwennu cyfrol o straeon byrion erioed, a dwi wastad wedi mwynhau eu darllen. I raddau mae'r teitl 'Plu' yn adlewyrchu ffurf y stori fer, lle ma angen i gyffyrddiad y sgwennu fod yn ysgafn ond bod angen asgwrn cefn cadarn i bob un, fel plufyn.”

Eleni hefyd mi fydd addasiad Caryl o'i nofel enwog Martha Jac a Sianco'n cael ei darlledu fel prif ffilm y Nadolig ar S4C. Ac mae na debygrwydd i naws y gyfrol newydd a'r nofel honno. Meddai Caryl: “Mae byd natur yn bwysig ynddyn nhw yn ogystal â chymeriadau y Gymru wledig... ac os ydi pobl wedi hoffi Martha Jac a Sianco dwi'n gobeithio y ca'n nhw hefyd flas ar storïau Plu.”

Disgrifiodd Angharad Price y gyfrol fel “rhyddiaith eglur, iasol... a'r darlun o berthynas unigolion a'i gilydd ac a'u hamgylchfyd yn cyffwrdd at y byw.”

manylion y llyfr

(26/11/2008)

Dewi Prysor yn Cwblhau ei Drioleg - “Nofel arall gwbl gofiadwy gan awdur mwyaf doniol a darllenadwy Cymru.”

Mae Dewi Prysor newydd lansio ei drydedd nofel mewn tair blynedd. Mae Crawia yn ddilyniant i Brithyll a Madarch, dwy nofel sydd wedi creu cryn dipyn o gynnwrf yn y byd llyfrau Cymraeg. Er bod rhai wedi beirniadu ei bortreadau cignoeth, tywyll a choch o gymdeithas a'r iaith fras sy'n britho'i lyfrau, mae yna werthfawrogiad o'i hiwmor unigryw, ei ffraethineb a'r modd mae wedi llwyddo i roi llais i bobl yr ymylol gyda'r rhan fwyaf o adolygiadau yn ffafriol tu hwnt.
Mae ei lyfrau wedi gwerthu yn rhyfeddol hefyd gan ddenu cynulleidfa newydd i ddarllen llyfrau Cymraeg, ac mae'r Lolfa newydd orfod ail-argraffu Brithyll i ateb y galw.
Comedi dywyll wedi ei leoli mewn pentref ddychmygol yng nghefn gwlad Meirionydd yw Crawia, ond er y cefndir lled-wledig mae gan Prysor ddilyniant trwy Gymru. Un o'i edmygwyr mwyaf yw un o awduron dinesig disgleiriaf Cymru Llwyd Owen. Wrth drafod Crawia, dywedodd Llwyd,
“Tu ôl i'r miri, yr anhrefn, y camfihafio a'r cariad amlwg at gymeriadau a lleoliad ei drydedd nofel, mae'r awdur yn cyfleu negeseuon difrifol ynghylch cyflwr ein gwlad a dyfodol ein cenedl. Mae Dewi Prysor yn gyflym ddatblygu'n drysor cenedlaethol, ac fe wnaiff Crawia i chi chwerthin a gwingo bob yn ail. Nofel arall gwbl gofiadwy gan awdur mwyaf doniol a darllenadwy Cymru.”

manylion y llyfr

(19/11/2008)

Tomen o Jocs John Ogwen

Mewn noson arbennig yng Nghlwb Rygbi Bethesda bydd Y Lolfa yn lansio cyfrol o jôcs a straeon digri'r actor o Sling John Ogwen. Hiwmor John Ogwen yw'r ddegfed gyfrol yn y gyfres Ti'n Jocan. Mae'r gyfrol yn gasgliad o straeon sydd wedi gwneud iddo chwerthin dros y blynyddoedd a cheir blas o hiwmor ffraeth ac unigryw Dyffryn Ogwen. Mae yna straeon am Wyddelod, am fywyd gwyllt, o syrjeri'r doctor, y dafarn, ambell i limrig a sawl jôc sy'n mynd i wrido bochau'r gwangalon.
Cyfaddefa John Ogwen ei fod yn hoff o gomediwyr sy'n naturiol ddoniol fel Billy Connolly, Dave Allen, Eilir Jones, Tudur Owen a Dewi Pws ond fod cymeriadau ei fro enedigol yn gwneud iddo chwerthin hefyd, yn aml heb iddynt wybod eu bod yn ddigri. Dywedodd fod y casgliad yma “yn cynnwys ambell i stori bersonol a llwyth o'm hoff straeon a jôcs. Os ydych chi wedi clywed rhai ohonynt o'r blaen, wel – tyff!”
Mae croeso i bawb i ddod i'r lansiad yng Nghlwb Rygbi Bethesda ar y 7fed o Dachwedd. Bydd y noson yn cychwyn am 8 o'r gloch.

manylion y llyfr

(05/11/2008)
<--  -->


Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE     +44(0) 1970 832 304

Newydd!

Clawr | Cover Hunangofiant Eirwyn George: Fel Hyn y Bu
Hunangofiant Eirwyn George: Fel Hyn y Bu
Eirwyn George
£9.95
manylion llawn

Clawr | Cover Y Daith
Y Daith
Mairwen Thorne
£6.95
manylion llawn

Clawr | Cover Dwylo ar y Piano 3: Dawnsiau Celtaidd
Dwylo ar y Piano 3: Dawnsiau Celtaidd
Sw Gerallt Jones
£6.95
manylion llawn

Clawr | Cover O Wythnos i Wythnos
O Wythnos i Wythnos
R Gerallt Jones
£9.95
manylion llawn