Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Lansio Am Newid - Dana Edwards

Ymunwch a ni ar gyfer digwyddiad lansio AM NEWID - nofel newydd Dana Edwards, am 2 o'r gloch dydd Llun 27 Tachwedd ar stondin Merched y Wawr yn Neuadd Arddangos Clwyd Morgannwg yn Ffair Aeaf Llanelwedd.

Bydd Dana Edwards yn sgwrsio am ei nofel gyda Tegwen Morris a chawn glywed am brofiadau go-iawn Carol Nixon, menyw draws-rywiol sydd wedi byw ers dros ugain mlynedd ym Mhenuwch, Ceredigion. Bydd yna berfformiad byw gan y gantores Sian James a chyfle i rannu gwin cynnes (acloholig a di-acholig) a chacen.

Croeso cynnes i bawb. Mynediad am ddim!
_______________

Am Newid yw nofel newydd sbon yr awdur o Aberystwyth, Dana Edwards. Dyma nofel boblogaidd ffres a chyfoes sy'n hawdd ei darllen sydd yn ceisio mynd i'r afael â'n hagweddau at bobl sydd ddim yn cydymffurfio â'n syniad ni o'r hyn sy'n draddodiadol. Mae Ceri'n dychwelyd i gartref ei phlentyndod, ond erbyn hyn mae'n berson gwahanol iawn.

Mae’r newid ynddi yn golygu ei bod yn mentro mynd yn aelod yn ei changen Merched y Wawr lleol ym mlwyddyn dathlu’r mudiad yn hanner cant – ond er ei bod yn ddynes bellach, mae’r ffaith bod rhai yn dal i’w chofio fel bachgen yn golygu nad yw’n hawdd iddyn nhw ei derbyn hi.

Ac nid Ceri’n unig sydd wedi newid – yn y chwarter canrif ddiwethaf mae cymdeithas bro ei mebyd wedi ei drawsnewid o ran iaith, diwylliant ac agweddau.