Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

‘Y degawd nesaf gyda’r mwyaf arwyddocaol erioed i wleidyddiaeth Cymru’ meddai golygydd materion Cymreig y BBC

Fe fydd y degawd nesaf gyda’r mwyaf arwyddocaol erioed i wleidyddiaeth Cymru, yn ôl Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, ar achlysur cyhoeddi cyfrol o’i waith i nodi ugain mlynedd wedi i Gymru bleidleisio dros gael Cynulliad Cenedlaethol.

Yn y gyfrol, Pen ar y Bloc, a gyhoeddir yr wythnos hon, dywed Vaughan fod ‘y platiau tectonig yn symud ac mae cwestiynau a fyddai wedi ymddangos yn hurt ddeng mlynedd yn ôl bellach yn rhai rhesymol’.

Mae’r symudiadau hyn, meddai, yn golygu bod cwestiynau’n codi ynghylch bodolaeth ambell un o’r pleidiau mawrion yn eu ffurfiau presennol gan broffwydo hefyd y gall dyddiau gwleidyddiaeth dosbarth fod yn tynnu at eu terfyn. Mae hefyd yn darogan y posibilrwydd o’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn chwalu.

‘A fydd y Deyrnas Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, neu’r ddau, yn debyg o gwympo’n ddarnau neu a fydd modd iddynt lwyddo i ail-greu eu hunain? Fe gawn weld.’

Mae’r gyfrol, a luniwyd ar y cyd rhwng Vaughan a’i gyd-newyddiadurwr, Ruth Thomas, yn atgynhyrchu y gorau o flog llwyddiannus Vaughan gan sicrhau na fydd ei ysgrifau bachog yn diflannu mewn unrhyw ‘Oes Dywyll Ddigidol’.

Bydd cyhoeddi’r gyfrol, sydd yn cynnwys deunydd newydd sydd yn cloriannu rhai o’r datblygiadau gwleidyddol pwysicaf ers 1997, yn golygu bod cofnod cwbl anhepgor o hanes Cymru wedi ei greu.

Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys teyrnged i gyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, a fu farw ar yr 17eg o Fai, yr ysgrifennodd Vaughan yn arbennig ar gyfer y gyfrol.
 
Meddai’r Athro Richard Wyn Jones, pennaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, ‘Dyma sylwebaeth wleidyddol o’r radd flaenaf: praff, eang ei orwelion ac eangfrydig ei ysbryd. Prawf pellach ein bod wedi bod yn eithriadol o ffodus fel cenedl i gael Vaughan Roderick i’n tywys trwy holl droeon dau ddegawd cyntaf datganoli.’
 
Ers diwedd y 1970au, mae Vaughan wedi tystio i nifer o’r digwyddiadau sydd wedi newid Cymru – o brotestiadau Cymdeithas yr Iaith, streic y glowyr, y frwydr dros ddatganoli hyd at y bleidlais Brexit.
 
Fe wnaeth hynny ar radio a theledu, ac o 2004 ymlaen fe ysgrifennodd ar gyfer gwasanaeth newyddion ar-lein y BBC, trwy’r golofn O Vaughan i Fynwy i ddechrau, a’i flog o 2007 ymlaen.

Dywed ei olygydd Ruth Thomas, fod llais unigryw Vaughan wedi ‘diffinio cenhedlaeth’.

Meddai Vaughan wrth adlewyrchu ar ei waith, ‘Y cyfan y gall newyddiadurwr ei wneud yw adrodd a mesur pwysigrwydd stori fel y mae’n ymddangos ar y pryd, trwy sbectol ein hoes ni.’

O ganlyniad i ddadansoddiad Vaughan dros y degawdau mae Pen ar y Bloc yn gronicl cynhwysfawr, hanfodol a ffraeth y bydd unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes a gwleidyddiaeth Cymru yn ei fwynhau.