Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Sinemau anghofiedig gorllewin Cymru yn cael ei darganfod o'r newydd

Mae hanes cyfrinach sinemâu anghofiedig gorllewin Cymru wedi cael eu hailddarganfod yr wythnos hon.

Mae'r rhan fwyaf o sinema gorllewin Cymru – o’r Bermo yng Ngwynedd i Lanelli yn Sir Gaerfyrddin - wedi diflannu ers tro, wedi eu dymchwel neu eu trosi ar gyfer deunydd arall. Mae’r gyfrol newydd sbon The Cinemas of West Wales gan Alan Phillips yn cofnodi ble oedd y sinemau hyn, gan roi disgrifiadau o’u diwyg a’u rhaglenni, ac yn cynnwys dros gant o ffotograffau o’r hyn yr oeddent yn edrych a sut mae nhw’n edrych erbyn hyn.

Yng Nghymru, cynhaliwyd y gwaith o adeiladu mwyafrif o sinemâu’r wlad yn 1910 a 1911, er bod nifer o adeiladau wedi’u trosi’n sinemâu cyn hynny.

‘Roedd yr ymweliad wythnosol â’r ‘pictiwrs’ mor gyffredin â gwylio’r teledu heddiw. Yr oedd yn antur ac un o’r ychydig ddulliau o adloniant oedd ar gael ar y pryd,’ meddai’r awdur Alan Phillips, ‘Roedd yn gyfle i gamu yn ôl mewn amser neu i’r dyfodol, cyfle i anghofio a dianc rhag bywyd bob dydd am awr neu ddwy i mewn i fyd dychymyg’.

Roedd gan Gymru arloeswyr ffilmiau ei hun, megis John Codman, mab dyn sioe y pier yn Llanduno, Punch and Judy, fyddai’n teithio ledled y gogledd gyda’i sioe llusernau hud. Roedd Arthur Cheetham hefyd yn ffilmio golygfeydd dydd i ddydd ledled y wlad er mwyn eu dangos mewn lleoliadau ar draws y rhan fwyaf o Gymru. Ymgartrefodd ef yn Y Rhyl ac ym 1906 sefydlodd Silvograph Animated Pictures - y sinema barhaol gyntaf yng Nghymru.

Ond, erbyn y 1960au, roedd dyfodiad y teledu a’r cynydd yng nghostau rhedeg y sinemau wedi achosi dirywiad i’r nifer o bobl oedd yn ymweld a’r sinema ac fe aeth y rhan fwyaf i drafferthion ariannol yn sgil hynny.

‘Mae pethau wedi newid erbyn hyn,’ ychwanegodd Alan, ‘Cafodd rhai sinemâu neu theatrau eu troi’n neuaddau bingo neu fe’u defnyddiwyd ar gyfer defnyddiau eraill, megis archfarchnadoedd, neu eu dymchwel yn y pen draw. Heddiw mae nifer o sinemâu wedi eu cymryd drosodd gan dafarndai J.D. Wetherspoon, ond gan gadw’r addurniadau a’r diwyg er mwyn rhoi cipolwg i ni o ddyddiau eu gogoniant’.

Mae yna rai sinemâu annibynnol yn bodoli o hyd yng Nghymru, yn cael ei rhedeg yn bennaf gan awdurdodau lleol gyda chymorth gwirfoddolwyr. Dros y blynyddoedd mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r lleoliadau gyda grantiau gan Gronfa Ddatblygu Ewropeaidd sydd wedi galluogi i’r sinemâu fuddsoddi mewn offer modern megis taflunwyr digidol.

Yn ogystal â bod yn gyn-dafluniwr sinema ei hun, nododd Alan mai gwraidd ei gymhelliant tu ôl i ysgrifennu’ llyfr oedd yn ‘fwy na dim gweld nifer y sinemâu sydd wedi cau ledled Cymru ers yr 1960au’.

Astudiodd Alan Phillips hanes yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe, cyn ymuno â’r RAF. Bu'n gweithio fel taflunwr sinema gyda’r Kinema Corporation ac yn ddiweddarach gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn.