Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

‘Plant mewn perygl o golli geiriau Cymraeg am fyd natur' meddai Caryl Lewis

Mae’r awdur adnabyddus a phoblogaidd Caryl Lewis wedi rhybuddio bod plant y dyddiau hyn mewn perygl o golli geiriau a thermau Cymraeg o fyd natur.

Daw’r sylwadau yn sgil cyhoeddi ei llyfr newydd i blant, Merch y Mêl. Arluniwyd y gyfrol gan Valériane Leblond.

Yn Merch y Mêl, caiff Elsi ei gadael ar stepen drws ei mam-gu. Mae Elsi mor dawel â’r eira nes i Mam-gu ddangos cyfrinach iddi ar waelod yr ardd – cwch gwenyn. Trwy ddilyn y gwenyn, a sylwi ar bopeth sy’n digwydd yn yr ardd yn ystod y flwyddyn, daw Elsi i garu pob tymor yn ei dro.

‘Fe ysgrifennais i’r gyfrol yn rhannol er mwyn dysgu plant am dymhorau ac enwau’r byd natur sydd o’n cwmpas a geiriau fel bysedd y cŵn, clychau’r gog, cynffonnau ŵyn bach ac ati.’ eglurodd Caryl, ‘Dyw plan ddim yn cael dysgu enwau blodau a choed ac ati bellach fel erstalwm,’

‘Ond cefais fy ysbrydoli hefyd gan fy mhrofiad o gadw gwenyn ar ein fferm yng Ngoginan ger Aberystwyth’ ychwanegodd, ‘Bellach mae fy merch, Gwenno, yn dysgu am gadw gwenyn hefyd yn union fel Elsi!’ ychwanegodd.

‘Mae’n bwysig iawn bod yn ymwybodol o’r byd sydd o’n cwympas, a dyle plant ac oedolion wybod a deall mwy am natur a’i berthynas gyda phopeth’ ychwanegodd Valériane.

Bydd y llyfr clawr caled, sydd yn addas ar gyfer plant 4 i 8 oed, yn gyfrol i’w thrysori ac yn gyfle i blant ddysgu enwau blodau ac am wenyn a byd natur drwy’r tymhorau yn stori annwyl Caryl Lewis a lluniau bendigedig Valériane Leblond.

Dyma’r ail dro i Caryl Lewis a Valériane Leblond gydweithio, yn dilyn llwyddiant Sgleinio'r Lleuad a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Tir na n-Og 2015.

‘Roeddwn yn falch iawn o gael cydweithio gyda Caryl unwaith eto’ meddai Valériane, ‘Mae’r stori yma yn berffaith i mi – rwy’n hoff o ddarlunio cefn gwlad, tymhorhau a byd natur ac rwy’n agos iawn gyda fy Mam-gu hefyd!’

Mae Caryl Lewis yn adnabyddus fel un o nofelwyr Cymraeg fwyaf profiadol a blaengar y genedl. Mae hi eisoes wedi ennill llu o wobrau ac anrhydeddau am ei chyfrolau i blant bach, yr arddegau ac oedolion gan gynnwys gipio gwobr Llyfr y Flwyddyn ddwy waith am ei nofelau i oedolion (Martha, Jac a Sianco ac Y Bwthyn) a Gwobr Tir na n-Og sawl gwaith am ei chyfrolau i blant ac phobl ifanc. Mae ei chyfrol o straeon byrion Y Gwreiddyn ar restr fer gwobr ffuglen Cymraeg Llyfr y Flwyddyn 2017.

Mae Valériane yn Ffrances-Gwebecaidd sy’n enedigol o Angers yn Ffrainc ond wedi byw yng Nghymru ers deng mlynedd gan ddysgu i siarad Cymraeg. Mae hi bellach yn byw yn Llangwyryfon gyda’i chymar a’u tri o feibion bach. Astudiodd Valériane gelf a llenyddiaeth yn Llydaw ac mae hi’n brysur wneud enw iddi hi ei hun fel arlunydd gan gipio gwobr Tir na n-Og 2016 gyda’r gyfrol Y Mabinogi. Mae hi wrth ei bodd yn darlunio storïau plant.

Bydd sesiwn stori a gweithdy celf gyda Caryl Lewis a Valériane Leblond yn seiliedig ar y gyfrol yn cael ei gynnal yn Siop y Pethe, Aberystwyth am 2 o’r gloch dydd Sadwrn 4 Tachwedd.