Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Nofel gyffrous wleidyddol wedi ei gosod wrth wraidd cynulliad Cymru

Wrth i'r Etholiad Cyffredinol fynd rhagddo, cyhoeddir nofel ddirgelwch gyffrous, nid yn annhebyg i nofelau Dan Brown, sydd wedi ei gosod wrth wraidd gwleidyddiaeth Cymru.

Wedi ei ysbrydoli gan gynnwrf gwleidyddol y flwyddyn ddiwethaf, mae'r awdur Ifan Morgan Jones yn holi beth fyddai'n petai ffigwr tebyg i Donald Trump neu Nigel Farage yn arwain llywodraeth boblyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

'Dydw i ddim yn credu fod llenyddiaeth Cymru wedi ymateb i ddatganoli,' meddai Ifan Morgan Jones, 'Roeddwn am newid hyn drwy ysgrifennu nofel wleidyddol gyffrous wedi ei gosod ym mae Caerdydd.'

Cyhoeddir y nofel, Dadeni, yr wythnos hon gan wasg Y Lolfa.

Pan aiff lladrad yn Nhŵr Llundain o chwith, caiff yr archeolegydd Bleddyn Cadwaladr a'i fab Joni Teifi eu galw i ddatrys yr achos. Ond mae'r hyn y maent yn ei ddarganfod yn eu gwthio i ganol rhyfel am einioes Cymru sy'n ymestyn yn ôl filoedd o flynyddoedd.

Wrth i rymoedd tywyll fygwth Senedd Cymru, mae'r ddau'n wynebu ras yn erbyn amser i ddod o hyd i grair dinistriol a all newid cyfeiriad hanes y genedl.

'Ysgrifennais y nofel yn wreiddiol yn 2015 ond fe ddigwyddodd cymaint dros y flwyddyn ddiwethaf yn y byd gwleidyddol teimlais fod angen i mi ail ysgrifennu rhannau ohoni er mwyn ystyried yr hinsawdd wleidyddol newydd,' meddai Ifan.

'Mae'r nofel yn ystyried ble mae'r ffiniau o ran pa fath o genedlaetholdeb sydd yn dderbyniol i ni yng Nghymru a'r cenedlaetholdeb sydd yn cael ei harddel gan Nigel Farage a Donald Trump.

'Yw'n dderbyniol i ddefnyddio tactegau sy'n manteisio ar natur emosiynol ac afresymol y bobl er mwyn sicrhau newid cyfansoddiadol am resymau iwtilitaraidd a rhesymegol?'

Mae Ifan Morgan Jones yn ddarlithydd mewn Newyddiaduraeth yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, Prifysgol Bangor.

Bu'n ddirprwy olygydd ar gylchgrawn Golwg ac yn olygydd gwefan newyddion Golwg 360. Cyhoeddodd ddwy nofel, Igam Ogam a enillodd wobr Daniel Owen yn 2008, ac Yr Argraff Gyntaf yn 2010.