Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Dewis llyfr gwreiddiol Cymraeg i blant fel rhan o gynllun Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru

Mae llyfr Cymraeg gwreiddiol i blant wedi ei ddewis ar gyfer cynllun cyffrous gan Lywodraeth Cymru i hybu llythrenedd yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Cafodd Geiriau Cyntaf Cyw gan Helen Davies (Y Lolfa) ei ddewis fel y llyfr llwyddiannus wedi i Cyngor Llyfrau Cymru dderbyn y cynnig i fod yn rhan o’r broses tendro i gyflenwi 10,000 copi o deitl Cymraeg fel rhan o raglen Dechrau’n Deg.

Mae Dechrau’n Deg yn rhan o Raglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru ar gyfer teuluoedd â phlant dan bedwar oed sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Yn ogystal â darparu gofal plant, gwasanaeth estynedig gan ymwelwyr iechyd, a mynediad at raglenni rhianta, mae hefyd yn darparu cymorth gyda llefaredd, iaith a chyfathrebu.

Yn ôl tystiolaeth mae gallu leferydd, iaith a chyfathrebu yn bwysig o ran rhagweld cynnydd diweddarach mewn llythrennedd, ac mae ganddo effaith ar sgiliau cymdeithasol yn ogystal ag ymddygiad plant.
Roedd rhaid i’r teitl llwyddiannus fod yn lyfr lluniau cyfrwng Cymraeg ar gyfer plant meithrin – yn ddelfrydol gyda thema Gymreig hefyd.

Llyfr bach llun-a-gair lliwgar yn cyflwyno geirfa syml mewn gwahanol sefyllfaoedd megis yr ardd, y fferm a glan y môr yw Geiriau Cyntaf Cyw. Cyhoeddwyd yn wreiddiol mewn cydweithrediad ag S4C a Boom Cymru. Mae’n addas ar gyfer oedran meithrin a phlant bach rhwng 3 a 5 oed.

‘Mae’r Lolfa yn falch iawn fod Dechrau’n Deg wedi dewis un o lyfrau Cyw ar gyfer y cynllun,’ meddai Garmon Gruffudd, rheolwr gyfarwyddwr gwasg Y Lolfa, ‘Gobeithio, yn sgil hyn, y bydd rhieni yn mynd ati i ddarganfod rhagor o’r toreth o lyfrau gwych gwreiddiol sydd ar gael i blant yn Gymraeg.’

‘Rwy'n falch iawn fod y llyfr yma, sydd wedi derbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy gynllun grantiau Cyngor Llyfrau Cymru, wedi ei ddewis ar gyfer rhaglen Dechrau'n Deg.’ ychwanegodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, ‘Bydd yn golygu bod llyfr Cymraeg sy'n drwyadl Gymreig ar gael i blant a rhieni sy'n byw yng Nghymru, gan gyfrannu, gobeithio, at fwynhad o ddarllen drwy gydol eu hoes.’

Bydd y copiau yn cael ei dosbarthu o amgylch Cymru fel rhan o’r cynllun erbyn dechrau Chwefror 2018.