Cyrraedd carreg filltir yng nghyfres Alun yr Arth
Alun yr Arth a'r Ddraig Fach Goch gan Morgan Tomos yw'r 25ain llyfr i gael ei gyhoeddi yng nghyfres Alun yr Arth. Mae dros 50,000 o lyfrau Alun yr Arth wedi ei gwerthu erbyn hyn ac yn ddiweddar lansiwyd gwefan newydd sbon Alun yr Arth ynghyd ag apiau a chyfrif Twitter. Mae'r gyfres wedi hen hawlio ei lle bellach fel un o gyfresi mwyaf poblogaidd erioed i blant bach dan 7 oed.
Yn yr antur newydd, mae Alun yn mynd ar gefn y ddraig fach goch ar daith o gwmpas Cymru ac mae'n gweld rhyfeddodau di-ri! Ond pam mae'r ddraig fach mor drist?
'Daeth y syniad ar gyfer y stori am Alun yn cwrdd â draig goch ar ôl i mi ymweld â Ysgol Bro Dyfrdwy yn gynharach eleni' eglurodd Morgan, 'Mae diolch yn bennaf i ddisgybl o'r enw Meirion am ddychmygu'r syniad!'
Daw Morgan Tomos o Gaernarfon yn wreiddiol ond mae'n byw bellach yn ardal Pwllheli. Mae wedi'i hyfforddi fel animeiddiwr ac mae wrth ei fodd yn teithio o gwmpas ysgolion Cymru yn trafod llyfrau a chynnal gweithdai.