Cyhoeddi Cofiant Cledwyn Hughes yn ei hen etholaeth yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn
Cofiant swmpus a chynhwysfawr yw Cofiant Cledwyn Hughes gan D. Ben Rees, sy'n edrych ar hanes Cledwyn, mab y mans o Gaergybi gyda'i gefndir Rhyddfrydol, yn cael ei ddenu'n ŵr ifanc gan Blaid Cymru cyn bwrw'i goelbren gyda'r Blaid Lafur. Croniclir ei gyfraniad fel aelod etholedig dros Ynys Môn a'i gyfnod fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Gweinidog Amaeth a Chadeirydd y Blaid Lafur Seneddol.
Ceir ymdrinaeth â'i ymwneud â thrychineb Aberfan, Deddf Iaith 1967, Arwisgo'r Tywysog Charles yn 1969, a'i waith yn taro bargeinion gydag Aelodau Seneddol Plaid Cymru cyn diwedd oes llywodraeth James Callaghan. Adroddir hefyd amdano'n arweinydd y ddirprwyaeth o dri gŵr doeth a aeth i argyhoeddi llywodraeth y Torïaid ar fater sefydlu S4C.
Cyhoeddir y gyfrol hefyd ugain mlynedd ers ennill refferendwm 1997 ar sefydlu Cynulliad i Gymru, mae cyfrol newydd yn bwrw golwg yn ôl dros yrfa, ac mae nifer yn ystyried Cledwyn Hughes fel un a fu'n gosod y sylfeini ar gyfer datganoli o'r 1950au ymlaen a fel yr aelod amlycaf oll o adain Gymraeg a Chymreig ei blaid yn ei ddydd.
Roedd ganddo bersonoliaeth hynod o hoffus fel y dengys ei gofiannydd, Dr D. Ben Rees, ac roedd yn boblogaidd gan aelodau pob plaid yn San Steffan, yng nghylchoedd Prifysgol Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ac ymysg trigolion Ynys Môn. Gofalodd gyflwyno hanfodion Anghydffurfiaeth Gymraeg Gristnogol yn ei anerchiadau a'i bregethau ledled yr ynys.
'Os oes unrhyw wleidydd yn haeddu cofi ant cyflawn, Cledwyn Hughes yw hwnnw' meddai awdur y gyfrol, D Ben Rees, 'Dyma ffigwr hynod o ddylanwadol ym Mhrydain yn ail hanner yr ugeinfed ganrif'.
'Mae bywgraffiad Ben yn un amserol, trylwyr a hynod ddarllenadwy a fydd yn ychwanegiad pwysig at y corpws o lyfrau sy'n ymdrin â Chymru'r ugeinfed ganrif.' ychwanegodd Vaughan Roderick.
Ganed D. Ben Rees yn Llanddewi Brefi, Ceredigion. Mae'n adnabyddus fel awdur toreithiog yn y Gymraeg a'r Saesneg ac yn un o bregethwyr amlycaf ei enwad. Treuliodd ei weinidogaeth yng Nghwm Cynon (1962-8) ac ymhlith Cymry Lerpwl oddi ers hynny. Ysgrifennodd D. Ben Rees gofiant i Jim Griffiths eisoes – llyfr a gafodd dderbyniad gwresog.