Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyflwyno syniadau J.R. Jones i 'genhedlaeth newydd o ddarllenwyr'

Mae cyfrol newydd a gyhoeddir yr wythnos hon yn edrych o'r newydd ar syniadaeth yr athronydd o Gymro J.R. Jones yn y gobaith o'u cyflwyno i ddarllenwyr newydd.

Ysgrifau am am J R Jones, un o gewri athroniaeth yng Nghymru yw Astudiaethau Athronyddol: 6. Argyfwng Hunaniaeth a Chred - Ysgrifau ar Athonyddiaeth J. R. Jones ac fe'i golygwyd gan E. Gwynn Matthews.

Ynddi, cyhoeddir casgliau o ysgrifau sydd yn cynnig ail olwg ar syniadau J. R. Jones o sawl safbwynt gyda'r bwriadu o'u 'cyflwyno i genhedlaeth newydd o darllennwyr'. Mae'r cyfranwyr hefyd yn gobeithio bydd y gyfrol yn cynnig dehongliadau newydd i'r sawl sydd eisoes yn gyfarwydd â gwaith J.R. Jones.

'Aeth hanner canrif heibio ers cyhoeddi yn 1966 yr hyn y gellir ei ystyried fel y dadansoddiad athronyddol dwysaf o'n hunaniaeth fel Cymry, sef Prydeindod, J. R. Jones' eglurodd E. Gwynn Matthews 'Eisoes, yn 1964, roedd J. R. Jones wedi cynhyrfu'r dyfroedd crefyddol gyda'r pamffledyn Yr Argyfwng Gwacter Ystyr, lle ceisiodd ddeall cysyniadau canolog Cristnogaeth mewn modd a fyddai'n ystyrlon mewn oes a osodai fri ar wyddoniaeth ac a fu'n dyst i'r Holocost.'

'Wedi hanner canrif mae'n briodol, ac yn wir yn ddyletswydd arnom, i ailedrych ar waith J. R. Jones' ychwanegodd E. Gwynn Matthews.

Yr awydd i ailystyried ei waith, ac i'w gyflwyno i genhedlaeth newydd, a ysgogodd Adran Athronyddol Graddedigion Prifysgol Cymru a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnal cynadleddau yn 2015

a 2016, y naill yn Aberystwyth a'r llall yn Abertawe, ar waith J. R. Jones.

Yn yr ysgrifau hyn ystyrir gwaith J.R. Jones o sawl safbwynt gan gynnwys rhai Ewropeaidd a rhai Angloffon, rhai ceidwadol a rhai rhyddfrydol.

Mae'r cyfranwyr yn cynnwys Grahame Davies, Rhiannon M. Williams, Richard Glyn Roberts, Walford L. Gealy, Robert Pope, Huw L. Williams, Steven D. Edwards, Dafydd Huw Rees a Simon Brooks.

Brodor o Bwllheli oedd J. R. Jones (1911 – 1970). Astudiodd Athroniaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth cyn graddio gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf a mynd yn ei flaen i ennill gradd M.A. Yna, aeth i Goleg Balliol, Prifysgol Rhydychen, lle derbyniodd ei ddoethuriaeth. Dychwelodd i Aberystwyth fel darlithydd yn yr Adran Athroniaeth. Yn 1952 fe'i penodwyd i'r gadair Athroniaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, ac yn y swydd honno y bu weddill ei oes.

Bu ei gyfraniad i athronyddu yn y Gymraeg yn sylweddol.

Gellir nodi dechreuad y traddodiad o athroniaeth academaidd Cymraeg gydag ymddangosiad rhifyn cyntaf Efrydiau Athronyddol yn 1938. Ef oedd awdur yr erthygl gyntaf yn y rhifyn hwnnw ac mae rhestr ei gyhoeddiadau Cymraeg ers hynny yn faith. Yn negawd olaf ei fywyd, fe ddygodd athroniaeth allan o'r academi gan wahodd pobl ystyriol o bob cylch o fywyd i ystyried eu hymateb i heriau'r oes – oes argyfwng.

Lansiwyd y gyfrol ym mhabell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern, Ynys Môn yng nghwmni E. Gwynn Matthews, Cynog Dafis, Dr Huw Williams a Betsan Cadwell – merch J. R. Jones.