Codi llen ar feddyginiaethau gwerin Cymru
Cyfrol gynhwysfawr am feddyginiaethau gwerin yw Meddyginiaethau Gwerin Cymru gan Anne Elizabeth Williams sy'n adlewyrchu llawer o ymchwil manwl ac yn ymwneud â phob rhan o Gymru.
Bu yng Nghymru draddodiad maith a chyfoethog o ymarfer meddyginiaethau gwerin.
Mae'r gyfrol wedi'i seilio'n bennaf ar y dystiolaeth lafar a gasglwyd gan Anne rhwng 1976 ac 1989 pan oedd ar staff Amgueddfa Werin Cymru. Bu'n cofnodi atgofion to hynaf y boblogaeth ledled Cymru am y meddyginiaethau gwerin yr oeddynt yn gyfarwydd â hwy yng nghyfnod eu plentyndod, ac mae'r atgofion hyn yn rhoi darlun unigryw o un agwedd ar fywyd y werin yn negawdau cynnar yr 20fed ganrif.
Mae'r gyfrol yn ymdrin â gwahanol grwpiau o anhwylderau yn eu tro gan ddangos yr amrywiaeth o ddefnyddiau crai y manteisid arnynt, yn blanhigion, cynnyrch anifail ac elfennau o'r byd naturiol, ac yn bwrw golwg ar y gwahanol ddulliau o wella, boed yn ddulliau uniongyrchol megis gwaedu, neu ddulliau swyn.
Mae'r defnyddiau crai y sonnir amdanynt yn amrywio o berlysiau, coed a blodau gwyllt i rannau o gorff anifail, megis saim gŵydd a bustl mochyn, ynghyd ag elfennau o'r byd naturiol. Ceir cipolwg hefyd ar wahanol ddulliau o wella, megis gwaedu yn y wythïen neu waedu â gelod, a sonnir yn ogystal am ymarferwyr answyddogol yr eid ar eu gofyn mewn cyfyngder.
Mae hefyd yn rhoi cipolwg i ni ar y gymdeithas glos a esgorodd ar y meddyginiaethau hyn.
'Ysgrifennwyd y llyfr hwn er mwyn datgelu cyfoeth y deunydd llafar a gasglais ar ran Amgueddfa Werin Cymru' eglurodd yr awdur, Anne Elizabeth Williams, 'Cofnodwyd tystiolaeth nifer helaeth o bobl ledled Cymru, ar ffurf recordiadau a nodiadau, ac mae eu hatgofion hwy am arferion meddyginiaethol cyfnod eu plentyndod yn rhoi darlun unigryw o un agwedd ar fywyd y werin yn negawdau cynnar yr 20fed ganrif.'
Meddai Dr Beth Thomas o Amgueddfa Werin Cymru, 'Da yw gweld doethineb gwlad o archifau Sain Ffagan yn cael ei ddatgloi ar gyfer cynulleidfa ehangach. Mae'n ddadansoddiad trylwyr, ysgolheigaidd o bwnc sydd o ddiddordeb i bawb.'
Addysgwyd Anne Elizabeth Williams yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes, a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Ar ôl graddio yn y Gymraeg, aeth ymlaen i ddilyn cwrs Diploma mewn Palaeograffeg a Gweinyddu Archifau ac i gwblhau Doethuriaeth ar Gwilym Tew, bardd o'r 15fed ganrif, a'i lawysgrif, Peniarth 51. Ar ôl cyfnod yn Archifdy Caernarfon, symudodd i Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, i ymchwilio ym maes Meddyginiaethau Gwerin. Wedi hyn, bu'n gweithio fel cyfieithydd annibynnol am dros ugain mlynedd hyd ei hymddeoliad.